Charles Evans

llawfeddyg, dringwr mynyddoedd, fforiwr (1918-1995)

Mynyddwr a llawfeddyg o Gymru oedd Syr Robert Charles Evans (19 Hydref 1918 – 5 Rhagfyr 1995).[1]

Charles Evans
Ganwyd19 Hydref 1918 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1995 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, llawfeddyg, dringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Noddwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganwyd yn Nerwen, Sir Ddinbych. Mynychodd Ysgol Amwythig, ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen. Ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ym 1943, a gwasanaethodd yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ym 1947, a daeth yn gofrestrydd llawfeddygol i Ysbytai Rhanbarthol Lerpwl.

Roedd yn is-arweinydd y cyrch ar Fynydd Everest ym 1953, a dyma oedd yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddringo copa uchaf y byd, gan Edmund Hillary a Tenzing Norgay. Bu Evans hefyd yn arweinydd y cyrch ar Kangchenjunga ym 1955. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i fynydda wedi iddo gael diagnosis o sglerosis ymledol. Yn aml bu'n teithio i Ben-y-Gwryd ar droed yr Wyddfa i gwrdd ag aelodau eraill o gyrch 1953. Roedd yn llywydd ar yr Alpine Club o 1967 i 1970, a chafodd ei urddo'n farchog ym 1969.

Gwasanaethodd yn swydd Prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, o 1958 i 1984, ac yn is-ganghellor Prifysgol Cymru o 1965 i 1967 ac o 1971 i 1973. Er yr oedd yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, bu gwrthdaro rhwng Evans a myfyrwyr Cymraeg oedd yn ymgyrchu dros yr iaith.

Priododd Nea Morin ym 1957, a chawsant dri mab. Bu farw yn Negannwy, yn 77 oed.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Eye on Everest (1955)
  • On Climbing (1956)
  • Kangchenjunga: The Untrodden Peak (1956)

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Tony Heath. "Obituary: Sir Charles Evans", The Independent (12 Rhagfyr 1995). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.