Pen-y-gwryd
Y bwlch sy'n gwahanu dyffrynnoedd Nantygwryd a Nant Cynnyd yn Eryri yw Pen-y-gwryd, hefyd Pen y Gwryd ac amrywiadau eraill. Saif yng Ngwynedd, rhyw chwarter milltir o'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy, ac ar gyffordd y priffyrdd A4086 o Gapel Curig i Lanberis a Chaernarfon a'r A498 o Feddgelert.
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0826°N 4.002°W |
Gwesty
golyguCeir Gwesty Pen-y-Gwryd yma, mewn adeilad oedd yn wreiddiol yn ffermdy, ac a drowyd yn westy gan John Roberts, Llanberis. Daeth y gwesty yn adnabyddus ym myd mynydda. Bu aelodau'r tîm cyntaf i ddringo Mynydd Everest yn ymarfer yn y cylch cyn yr ymgais ar y mynydd, a cheir eu llofnodion ar nenfwd un o'r ystafelloedd yn y gwesty, yn cynnwys Syr Edmund Hillary, Tenzing Norgay, Syr John Hunt a Charles Evans, ynghyd â nifer o ddarnau o offer.
Gerllaw'r gwesty mae Llyn Lockwood, wedi ei enwi ar ôl un o gyn-berchenogion y gwesty, a adeiladodd yr argae i greu'r llyn. Heb fod ymhell o'r llyn, mae olion caer Rufeinig dros dro, y math ar gaer a ddefnyddiai byddin Rufeinig dros nos pan ar ymgyrch.
Llwybr Pyg
golyguCredir y rhoddodd y gwesty ei enw i un o'r llwybrau i'r Wyddfa, sef y Llwybr Pyg, sydd yn dalfyriad am "Pen-y-gwyrd" yn ôl yr esboniad hwn, ond mae tarddiad yr enw yn aneglur a dim ond un o nifer o esboniadau posibl ydyw.