Degannwy
Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Degannwy neu Deganwy[1][2] (llurguniad: Deganway). Gorwedd i'r de o Landudno, ac i'r dwyrain o dref Conwy, sydd gyferbyn iddi ar ochr arall Afon Conwy. Mae yno orsaf ar y rheilffordd sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno, tua milltir i'r de. O ran llywodraeth leol, mae'n rhan o gymuned Conwy.
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.8°W ![]() |
Cod OS | SH779791 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Yr enwGolygu
Ceir mwy nag un cais i esbonio'r enw. Un posibilrwydd yw ei fod yn deillio o enw'r Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr -wy terfynol yn cynrychioli gwy sy'n golygu 'ystum, tro,' ac sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd (e.e. afon Elwy). Degannwy yw'r ffurf safonol a chynharaf, ond gwelir Deganwy yn aml hefyd. Clywir y ffurf Deganwa ar lafar weithiau, ac efallai taw hynny sy'n gyfrifol am y ffurf Seisnigaidd gyffredin Deganway.[3]
Yr hen enw ar "Deganwy Quay", yr hen harbwr ble saif gwesty newydd o'r un enw ydy Cored Maelgwn;[4] pysgodfa neb llai na’r brenin Maelgwn Gwynedd yn y 6g.
HanesGolygu
Mae'n fwyaf nodedig am Gastell Degannwy, a oedd yn y 6g yn gadarnle Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd. Ymddengys mai Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yr adeg yma, ond yn ddiweddarach symudodd i Aberffraw ar Ynys Môn. Dyma un o brif ganolfannau Cantref Rhos. Adeiladwyd nifer o gaerau ar y bryn lle saif y castell dros y canrifoedd, gan gynnwys castell Normanaidd yn 1082, oedd yn perthyn i Robert o Ruddlan. Yn ddiweddarach adeiladwyd castell yno gan Llywelyn Fawr. Chwalwyd y castell yma, a defnyddiwyd llawer o'r meini i adeiladu Castell Conwy.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ Ifor Williams, Enwau Lleoedd.
- ↑ Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback.; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan