Charles Francis Egerton Allen
Roedd Charles Francis Egerton Allen (14 Hydref 1847 – 31 Rhagfyr 1927) yn weinyddwr Prydeinig yn yr India ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Penfro a Hwlffordd.
Charles Francis Egerton Allen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Hydref 1847 Agra |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1927 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod Seneddol, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Allen yn Agra, Uttar Pradesh yr India ym 1847, lle'r oedd ei dad, Charles Bird Allen yn gwasanaethu yng Ngwasanaeth Sifil yr India. Ei fam oedd Mary Anne Harriet, merch Peter Bartholomew Jullian o Lundain.
Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1870.
Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o Whitburn, Swydd Durham ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw yn ei gartref yn 10 Norton, Dinbych y Pysgod.[1]
Gyrfa
golyguGalwyd Allen i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1871 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr cyn symud yn ôl i'r India ym 1873 lle fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghalcutta a Rangoon ac fel barnwr llys man achosion Calcutta, bu'n Advocad y Llywodeaethwr yn Rangoon ac yn Gofrestrydd Rangoon. Bu hefyd yn ddarlithydd yn y Gyfraith yng Ngholeg y Presidency Calcutta.[2]
Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch dros Sir Benfro o 1895 i 1906
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892 gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol. Collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1895 gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ landedfamilies.blogspot.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2017.
- ↑ tudalen 425 The India List and India Office List for 1905, Harrison & Sons Llundain 1905 [1] adalwyd 27 Ionawr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Charles Mayne |
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd. 1892 – 1895 |
Olynydd: John Wimburn Laurie |