Charles Wilkins (Catwg)
Hanesydd o Gymru oedd Charles Wilkins (1831 – 1913), a gofir fel awdur sawl llyfr ar hanes a diwylliant Cymru a nodweddir gan wladgarwch cynnes a diddordeb arloesol mewn hanes diwydiannol de Cymru.[1]
Charles Wilkins | |
---|---|
Ffugenw | Catwg |
Ganwyd | 1830 Stonehouse |
Bu farw | 2 Awst 1913 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | postfeistr, llyfrgellydd, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | William Wilkins |
Bywgraffiad
golyguGaned Wilkins yn Swydd Gaerloyw yn 1831 ond ymgartrefodd ei rieni ym Merthyr Tudful lle cafodd ei fagu a lle treuliodd weddill ei oes. Cafodd swydd fel postfeistr Merthyr a bu'n dal y swydd honno hyd ei ymddeol yn 1898. Daeth yn ffigwr amlwg yng nghylchoedd llenyddol de Cymru ar ôl dod yn llyfrgellydd y llyfrgell danysgrifol leol pan ddaeth i adnabod yr hanesydd llenyddiaeth Thomas Stephens (awdur The Literature of the Kymry). Er nad yn Gymro o ran tras daeth i ystyried ei hun yn Gymro gwladgarol, ffaith a adlewyrchir yn aml yn ei weithiau llenyddol. Bu farw yn 1913.[1]
Gwaith llenyddol
golyguBu'n weithgar yn cyfrannu erthyglau i bapurau Saesneg Caerdydd a Merthyr ac yn nes ymlaen ef oedd golygydd y cylchgrawn hynafiaethol gwladgarol The Red Dragon. Cyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys cyfrol ar hanes llenyddiaeth Gymraeg o 1300 hyd 1650 a gweithiau hanesyddol ar hanes diweddar ardal Merthyr a de Cymru, yn cynnwys The History of Merthyr Tydfil (1867) a llyfr ar y diwydiant glo yn ne Cymru.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- The History of Merthyr Tydfil (1867)
- Tales and Sketches of Wales (1879)
- The History of the Literature of Wales from 1300 to 1650 (1884)
- The History of the Coal Trade in South Wales (1888)