Charles Wilkins (Catwg)

hanesydd

Hanesydd Cymreig oedd Charles Wilkins (18311913), a gofir fel awdur sawl llyfr ar hanes a diwylliant Cymru a nodweddir gan wladgarwch cynnes a diddordeb arloesol mewn hanes diwydiannol de Cymru.[1]

Charles Wilkins
FfugenwCatwg Edit this on Wikidata
Ganwyd1830 Edit this on Wikidata
Stonehouse Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpostfeistr, llyfrgellydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Merthyr Tydfil Subscription Library Edit this on Wikidata
TadWilliam Wilkins Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Wilkins yn Swydd Gaerloyw yn 1831 ond ymgartrefodd ei rieni ym Merthyr Tudful lle cafodd ei fagu a lle treuliodd weddill ei oes. Cafodd swydd fel postfeistr Merthyr a bu'n dal y swydd honno hyd ei ymddeol yn 1898. Daeth yn ffigwr amlwg yng nghylchoedd llenyddol de Cymru ar ôl dod yn llyfrgellydd y llyfrgell danysgrifol leol pan ddaeth i adnabod yr hanesydd llenyddiaeth Thomas Stephens (awdur The Literature of the Kymry). Er nad yn Gymro o ran tras daeth i ystyried ei hun yn Gymro gwladgarol, ffaith a adlewyrchir yn aml yn ei weithiau llenyddol. Bu farw yn 1913.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Bu'n weithgar yn cyfrannu erthyglau i bapurau Saesneg Caerdydd a Merthyr ac yn nes ymlaen ef oedd golygydd y cylchgrawn hynafiaethol gwladgarol The Red Dragon. Cyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys cyfrol ar hanes llenyddiaeth Gymraeg o 1300 hyd 1650 a gweithiau hanesyddol ar hanes diweddar ardal Merthyr a de Cymru, yn cynnwys The History of Merthyr Tydfil (1867) a llyfr ar y diwydiant glo yn ne Cymru.[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • The History of Merthyr Tydfil (1867)
  • Tales and Sketches of Wales (1879)
  • The History of the Literature of Wales from 1300 to 1650 (1884)
  • The History of the Coal Trade in South Wales (1888)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).