Charli Britton

Cerddor a dylunydd o Gymro, drymiwr Edward H. Dafis

Cerddor a dylunydd o Gymro oedd Charli Britton (12 Rhagfyr 195214 Awst 2021).[1] Roedd yn ddrymiwr ac un o aelodau gwreiddiol y band Edward H. Dafis.

Charli Britton
GanwydCharles Britton Edit this on Wikidata
12 Rhagfyr 1952 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 2021 Edit this on Wikidata
Ysbyty Gwynedd Edit this on Wikidata
Man preswylCarmel, Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ealing Art College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdrymiwr, dylunydd graffig Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysgGolygu

Fe'i ganwyd yn Nhreganna, Caerdydd. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Cychwynnodd ei yrfa yn yr ysgol mewn eisteddfodau. Bu'n chwarae i'r band Cyffro, y band merched gwreiddiol, gyda'i chwaer Eirlys un o'r cantorion.

Fe astudiodd cwrs graffeg sylfaen yng Ngholeg Celf Cymru ac yna aeth ymlaen i Goleg Ealing yn Llundain. Bu'n drymio i nifer o fandiau fel myfyriwr ac roedd ganddo fand Saesneg ei hun o'r enw 'Boots'. Yn y cyfnod yma cafodd ei ddylanwadu gan y Beatles a Ringo Starr.

GyrfaGolygu

Daeth yn ôl i Gymru i ffurfio Edward H. Dafis gyda Cleif Harpwood, Hefin Elis, John Griffiths a Dewi Pws. Ef hefyd a ddyluniodd gloriau albym y band, fel yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Yn Erbyn y Ffactore a 'Sneb yn Becso Dam.

Bu'n ddrymiwr i nifer o fandiau eraill gan gynnwys Injaroc, Dafydd Iwan a'r Band, John ac Alun a Hergest.[2] Roedd hefyd wedi gweithio gydag artistiaid eraill megis Linda Griffiths a Geraint Griffiths. Drymiodd ar CD Aled Jones Hear My Prayer a ryddhawyd yn 2005.

Ers yr 1990au roedd yn gweithio fel dylunydd graffig yng Nghaernarfon. Bu'n darlunio a dylunio cloriau ar gyfer nifer o lyfrau Cymraeg, megis Dathlu Rygbi Cymru (Gorffennaf 2007, Gwasg Carreg Gwalch) a llyfrynnau crynoddisg, megis CD newydd Mojo, Ardal (2007) ac Eliffant gan Geraint Griffiths.

Charli oedd yn dylunio Papur Bro ardal Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, sef Lleu.

Bywyd personolGolygu

Roedd yn byw yng Ngharmel ac yn dad i ddau o blant, Siôn a Rhys.[3] Bu farw yn Ysbyty Gwynedd yn 68 mlwydd oed wedi salwch byr.[4] Cynhaliwyd ei angladd ar brynhawn Mercher, 1 Medi 2021 gyda gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 1.30pm.

CyfeiriadauGolygu