Charlotte Godley
Roedd Charlotte Godley (14 Tachwedd 1821 – 3 Ionawr 1907) yn Gymraes a ddaeth yn lythyr-wraig ac arweinydd cymunedol yn Seland Newydd.
Charlotte Godley | |
---|---|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1821 Pentrefoelas |
Bu farw | 3 Ionawr 1907 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gohebydd |
Tad | Charles Griffith-Wynne |
Mam | Sarah Hildyard |
Priod | John Robert Godley |
Plant | Arthur Godley, 1st Baron Kilbracken, Rose Mary Godley, Mary Henrietta Godley, Margaret Ethel Godley, Frances Eleanor Godley |
Teulu
golyguGanwyd Charlotte Griffith-Wynne yn Voelas House (bellach wedi ei ddymchwel) yn SIr Ddinbych, Cymru, yn 1821. Roedd yn ferch i Charles Griffith-Wynne, AS Sir Gaernarfon (1830–1832) a'i wraig, Sarah Hildyard, merch y Parch Henry Hildyard.[1] Ei brawd oedd Charles Wynne.
Priodas a Seland Newydd
golyguCofrestrwyd ei phriodas a John Robert Godley yn Llanrwst ar ddiwedd haf 1846.[2] Cawsant bedair o ferched: Rose (a aned yn Seland Newydd ychydig cyn iddynt adael), Eleanor, Mary, a Margaret; ganed y tair ieuengaf yn Lloegr ar ol 1853.[3] Roedd ganddynt un mab hefyd, Sir Arthur Godley, a ddaeth yn Farwn Kilbracken.
Hwyliodd Charloette a John Robert Godley am Seland Newydd ar ddiwedd 1849, a chyrraedd ym Mawrth 1850 ar y llong Lady Nugent. Roedd eu cartref yn Lyttelton yn fwthyn pren chwe ystafell ble byddai'n croesawu ymwelwyr fel y Parch. Thomas Jackson.[4] Gadawsant cyn diwedd 1852. Tra oedd yn Wellington, Lyttelton, a Ricarton, ysgrifennodd Mrs. Godley lythyrau at ei mam a oedd adref yng Nghymru, a chyhoeddwyd hwy (ar ôl ei marwolaeth) fel Letters from Early New Zealand.[5] Roedd y llythyrau yn disgrifio arferion Māori, ffasiwn lleol, daeargrynfeydd, y gymdeithas yn Dunedin, a manylion am brydau bwyd, rheoli cartref, a'r hinsawdd.[6]
Bywyd diweddarach
golyguBu farw ei gwr 1861, a bu Charlotte yn byw yn Llundain wedi hynny am dros ddeugain mlynedd, tan ei marwolaeth yn 85 oed ar 3 Ionawr 1903. Ysgrifennodd Eveline, ei hwyres (merch Arthur Godley), gofiant iddi yn argraffiad preifat 1936 o'r llythyrau.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Blain, Rev. Michael (2007). The Canterbury Association (1848-1852): A Study of Its Members’ Connections (PDF). Christchurch: Project Canterbury. tt. 93–94. Cyrchwyd 2013-04-03.
- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 14 June 2014.
- ↑ Lundy, Darryl. "The Peerage". Cyrchwyd 26 June 2014.
- ↑ C. E. Carrington, John Robert Godley of Canterbury (Cambridge University Press 1950): 120.
- ↑ Charlotte Godley, Letters from Early New Zealand, 1850-1853 (Whitcombe & Toombs 1951).
- ↑ Beryl Hughes, "Godley, Charlotte", from the Dictionary of New Zealand Biography. Te Ara - the Encyclopedia of New Zealand updated 30 October 2012.
- ↑ Eveline C. Godley, "Charlotte Godley: An Impression" in Letters from Early New Zealand (New Zealand Electronic Text Collection).