Sir Gaernarfon (etholaeth seneddol)

etholaeth seneddol

Roedd etholaeth Sir Gaernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan o 1542 hyd 1950 pan ddiddymwyd yr etholaeth.

Sir Gaernarfon
Etholaeth Sir
Creu: 1542
Diddymwyd: 1950
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Hanes golygu

O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Roedd Sir Gaernarfon yn cynrychioli'r bobl a oedd yn byw y tu allan i fwrdeistrefi tref Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ac o 1832 Bangor.

Cyn diwygio'r etholfraint ym 1832 roedd etholaeth Sir Gaernarfon yn cael ei hystyried yn un "dan ddylanwad" teulu Paget Marcwysau Môn.

Er gwaethaf ambell i gamsyniad nid etholaeth Lloyd George oedd Sir Gaernarfon, yr oedd o'n aelod dros y Bwrdeistrefi

Ar gyfer etholiad 1885 holltwyd etholaeth Caernarfon yn ddau gan ffurfio etholaethau Gogledd Sir Gaernarfon a De Sir Gaernarfon ail grëwyd yr etholaeth sirol unigol ar gyfer etholiad 1918.

Dyma'r etholaeth i Blaid Cymru ei hymladd gyntaf erioed. Gwnaed hynny yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1929 yr ymgeisydd oedd Lewis Valentine, Llywydd Cyntaf y Blaid. Cafodd 609 o bleidleisiau sef 1.6% o gyfanswm o 38,043.

Aelodau Seneddol golygu

  • 1541 — Syr Richard Bulckeley[1]
  • 1547 — Syr John Puleston, bu farw 1552 a'i olynu gan John Wynn ap Hugh
  • 1553 (Maw) — John Wynn ap Hugh
  • 1553 (Hyd) — Morris Wynn
  • 1554 (Ebrill) — Morris Wynn
  • 1554 (Tach) — David Lloyd ap Thomas
  • 1555 — Syr Rhys Gruffydd
  • 1558 — William Wynn Williams
  • 1558—1559 — Robert Pugh
  • 1563 (Ionawr) — Morris Wynn
  • 1571 — John Wynn ap Hugh
  • 1572 (Ebrill) — John Gwynne, bu farw 1574 a'i olynu gan William Thomas
  • 1584 — William Thomas
  • 1586 — John Wynn
  • 1588 (Hyd) — Hugh Gwyn Bodvel
  • 1593 — William Maurice
  • 1597 (Hydref) — William Griffith
  • 1601 (Medi) — William Jones
  • 1604 — Syr William Maurice
  • 1614 — Richard Wynn
  • 1621 — John Griffith
  • 1624 — Thomas Glynn
  • 1625 — Thomas Glynn
  • 1626 — John Griffith
  • 1628 — John Griffith
  • 1640 Ebrill — Thomas Glynn
  • 1640 Tachwedd — John Griffith iau — diswyddo 1642
  • 1647 — Syr Richard Wynn, 4ydd Barwnig
  • 1653 — Heb gynrychiolaeth yn Senedd yr esgyrn sychion
  • Blwyddyn—Aelod Cyntaf—Ail Aelod

Dau aelod yn y senedd warchodaeth gyntaf a'r ail senedd warchodaeth

Aelodau ar ôl Deddf Diwigio'r Senedd 1832 golygu

Diddymwyd y sedd ym 1885 a'i ail greu ym 1918

Etholiadau Diwrthwynebiad o'r 1830au i'r 1860au golygu

Etholwyd Thomas Assheton Smith (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832 ac 1835.

Etholwyd John Ralph Ormsby-Gore (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad ym 1837.

Etholwyd Edward George Douglas Pennant (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad ym 1841, 1847, 1852, 1857, 1859 a 1865.

Dyrchafwyd Edward George Douglas Pennant i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad ym 1866 ac fe'i olynwyd fel AS gan ei fab George Sholto Douglas-Pennant yn ddiwrthwynebiad yn isetholiad 1866, collodd George Douglas-Pennant ei sedd i'r Rhyddfrydwr Love Jones Parry mewn etholiad cystadleuol ym 1868.

Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaernarfon

Nifer y pleidleiswyr 4,852

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Love Jones Parry 1,968 52.0
Ceidwadwyr George Sholto Douglas-Pennant 1,815 48.0
Mwyafrif 153
Y nifer a bleidleisiodd 4,357 77.9
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1870au golygu

Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Sir Gaernarfon

Nifer y pleidleiswyr 6,286

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr George Sholto Douglas-Pennant 2,750 54.3
Rhyddfrydol Love Jones Parry 1,607 48.4
Mwyafrif 103
Y nifer a bleidleisiodd 3,317 80.6
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiadau yn y 1880au golygu

Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Sir Gaernarfon

Nifer y pleidleiswyr 6,652

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles James Watkin Williams 3,303 59.9
Ceidwadwyr George Sholto Douglas-Pennant 2,206 40.1
Mwyafrif 1,097
Y nifer a bleidleisiodd 5,509 82.8
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Ym Mis Tachwedd 1880 cafodd Watkin Williams ei ddyrchafu'n farnwr llys a bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o'r Senedd. Cynhaliwyd isetholiad ar 2 Rhagfyr 1880:

IsetholiadSir Gaernarfon 1880

Nifer y pleidleiswyr 6,652

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Rathbone 3,180 59.7
Ceidwadwyr H J Ellis Nanney 2,151 40.3
Mwyafrif 1,029
Y nifer a bleidleisiodd 5,509 80.1 5,33i
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

1885 - 1918 golygu

Ar gyfer etholiad 1885 holltwyd etholaeth Caernarfon yn ddau gan ffurfio etholaethau Gogledd Sir Gaernarfon a De Sir Gaernarfon ail grëwyd yr etholaeth sirol unigol ar gyfer etholiad 1918

Etholiadau yn y 1910au golygu

Etholiad cyffredinol 1918

Nifer yr etholwyr 36,460

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles Edward Breese 10,488 44.5
Llafur Annibynnol Robert Thomas Jones 8,145 34.6
Rhyddfrydwr Annibynnol Ellis William Davies 4,937 20.9
Mwyafrif 2,343 9.9
Y nifer a bleidleisiodd 64.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1920au golygu

Etholiad cyffredinol 1922

Nifer yr etholwyr 37,450

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Robert Thomas Jones 14,016
Rhyddfrydwr Cenedlaethol Charles Edward Breese 12,407
Mwyafrif
Y nifer a bleidleisiodd
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1923

Nifer yr etholwyr 38,136

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Goronwy Owen 15,043
Llafur Robert Thomas Jones 13,521
Mwyafrif 1,522
Y nifer a bleidleisiodd
Rhyddfrydol yn disodli Llafur Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1924:

Nifer yr etholwyr 38,647

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Goronwy Owen 15,033
Llafur Robert Thomas Jones 14,564
Mwyafrif 469
Y nifer a bleidleisiodd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1929

Nifer yr etholwyr 47,481

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Goronwy Owen 18,507 47.8 -2.9
Llafur Robert Thomas Jones 14,867 38.5 -10.7
Unoliaethwr D. Fowden Jones 4,669 12.1 n/a
Plaid Cymru Parch Lewis Valentine 609 1.6 n/a
Mwyafrif 3,640 9.3 +7.8
Y nifer a bleidleisiodd 38,652 81.4 +4.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1930au golygu

Etholiad cyffredinol 1931

Nifer yr etholwyr 48,003

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Goronwy Owen 14,993 39.0
Llafur William Elwyn Edwards Jones 14,299 37.2
Y Llywodraeth Genedlaethol W P O Evans 7,990 20.8
Plaid Cymru John Edward Daniel 1,136 3.0
Mwyafrif 694 1.8
Y nifer a bleidleisiodd 38,418 80.0
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1935

Nifer yr etholwyr 49,284

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Goronwy Owen 17,947 48.6
Llafur William Elwyn Edwards Jones 16,450 44.5
Plaid Cymru John Edward Daniel 2,534 6.9
Mwyafrif 1,497 4.1
Y nifer a bleidleisiodd 36,931 74.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1940au golygu

Etholiad cyffredinol 1945

Nifer yr etholwyr 51,249

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Owen Roberts 22,043 55.3
Rhyddfrydol Goronwy Owen 15,637 39.3
Plaid Cymru William Ambrose Bebb 2,152 5.4
Mwyafrif 6,406 16.1
Y nifer a bleidleisiodd 77.7
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Cyfeiriadau golygu

  1. Breese, Edward (1873). Kalendars of Gwynedd (PDF). Llundain: John Camden Hotten. t. 106.
  2. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8

Gweler hefyd golygu