Ardal fawr o fawnog i'r gorllewin o Fanceinion yw Chat Moss. Mae'n rhan o Ddinas Salford, Bwrdeistref Fetropolitan Wigan a Bwrdeistref Fetropolitan Trafford ym Manceinion Fwyaf. Mae hefyd yn rhan o Fwrdeistref Fetropolitan St Helens yng Nglannau Merswy a Bwrdeistref Warrington yn Swydd Gaer. Mae ganddi arwynebedd o tua 10.6 milltir sgwâr (27.5 km2).

Chat Moss
Mathcors Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Salford Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwynebedd10.6 mi² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.5°N 2.4°W Edit this on Wikidata
Map

Bu Chat Moss yn rhwystr i gwblhau Rheilffordd Lerpwl a Manceinion nes i'r peirianydd George Stephenson dod o hyd ateb, sef "arnofio" y lein ar wely o rug a changhennau wedi'u rhwymo at ei gilydd a'u gorchuddio â thar a rwbel. Mae traffordd yr M62, a gwblhawyd yn 1976, hefyd yn croesi'r gors.