Bwrdeistref Warrington
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Warrington (Saesneg: Borough of Warrington).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 209,547 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 180.6279 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Wigan ![]() |
Cyfesurynnau | 53.38889°N 2.59611°W ![]() |
Cod SYG | E06000007 ![]() |
GB-WRT ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Warrington Borough Council ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 181 km², gyda 210,014 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Halton i'r de-orllewin, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer i'r de, Dwyrain Swydd Gaer i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r dwyrain ac i'r gogledd, a Glannau Merswy i'r gogledd-orllewin.
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, ond daeth yn awdurdod unedol ar 1 Ebrill 1998.
Rhennir y fwrdeistref yn 18 o blwyfi sifil, yn ogystal ag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Warrington ei hun. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys tref Birchwood.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 15 Medi 2020