Chen Xitong
Gwleidydd Tsieineaidd oedd Chen Xitong (10 Mehefin 1930 – 2 Mehefin 2013)[1] oedd yn Faer Beijing o 1983 hyd 1993.
Chen Xitong | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1930 Sir Anyue |
Bu farw | 2 Mehefin 2013 o canser colorectaidd Beijing |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | maer Beijing, Secretary of the Beijing Committee of the Chinese Communist Party, National People's Congress deputy |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Tsieina |
Ganwyd yn Sichuan ac astudiodd lenyddiaeth Tsieineeg ym Mhrifysgol Pecin. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1949. Roedd Chen yn faer y brifddinas Beijing yn ystod protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989. Yn ôl nifer, gan gynnwys y Prif Weinidog Li Peng[2] ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol Zhao Ziyang,[3] roedd Chen yn allweddol wrth ormesu'r protestiadau. Gwadodd Chen yr oedd ganddo ran yn y penderfyniadau ac yn hwyrach dywedodd bod y gormes yn "drasiedi ofidus".[2] Ef oedd yr unig swyddog cyhoeddus uwch a fynegodd ofid am y cyflafan,[3] ond hyd ei farwolaeth roedd yn symbol o greulondeb y llywodraeth Tsieineaidd yn Tiananmen.[4] Ym 1992 dyrchafwyd Chen yn Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Beijing ac yn aelod o'r Politburo.[1]
Cafodd Chen ei ddiswyddo ym 1995 ynghylch sgandal yn Beijing, ac ym 1998 cafwyd yn euog o lygredigaeth ac esgeuluso'i ddyletswydd a chafodd ei ddedfrydu i garchar am 16 mlynedd. Mae'n bosib yr oedd cwymp Chen o ganlyniad i'w berthynas elyniaethus â'r Arlywydd Jiang Zemin. Cafodd Chen ei ryddhau o'r carchar ar barôl am resymau meddygol yn 2006.[3] Bu farw o ganser y colon yn 2013, tri mis cyn i'w ddedfryd dod i ben.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Childs, Martin (7 Mehefin 2013). Chen Xitong: Disgraced former mayor of Beijing. The Independent. Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) June 4 crackdown mastermind Chen Xitong dies. South China Morning Post (4 Mehefin 2013). Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Buckley, Chris (5 Mehefin 2013). Chen Xitong, Beijing Mayor During Tiananmen Protests, Dies at 82. The New York Times. Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
- ↑ (Saesneg) Chen Xitong: Timely passing. The Economist (5 Mehefin 2013). Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.