Christophe de Longueil
Ysgolhaig o dras Iseldiraidd a Ffrengig a dyneiddiwr yn ystod y Dadeni Dysg oedd Christophe de Longueil (tua 1488 – 1522).
Christophe de Longueil | |
---|---|
Ganwyd | 1488 Mechelen |
Bu farw | 11 Medi 1522 Padova |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | gradd baglor, licentiate |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, dyneiddiwr |
Swydd | municipal executive |
Tad | Antoine de Longueil |
Ganed ym Mechelen, Dugiaeth Brabant, yn fab i wraig leol ac esgob Ffrengig a oedd yn llysgennad o Deyrnas Ffrainc i'r Iseldiroedd Hapsbwrgaidd. Ym 1497 cafodd ei anfon gan ei dad i astudio ym Mhrifysgol Paris. Wedi marwolaeth ei dad ym 1500 gadawodd Christophe y brifysgol ac ymunodd â byddin y Brenin Louis XII. Yn ddiweddarach, ymunodd â lluoedd Philippe, Dug Bwrgwyn. Wedi marwolaeth y Dug Philippe ym 1506, astudiodd Longueil y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna ym 1507 ac yn Poitiers o 1508 i 1510. Darlithiodd Longueil ar ddysgeidiaeth wyddonol Plinius yr Hynaf a chyfraith Rufeinig y Pandectae. Rhoddwyd iddo ganiatâd gan y Pab Leo X i dderbyn swyddi anrhydeddus a phensiwn oddi ar y Babaeth. Derbyniodd ddoethuriaeth yn y gyfraith o Brifysgol Valence ym 1514, a chyhoeddwyd ei araith dderbyn ar bwnc y gyfraith.[1]
Symudodd Longueil i Baris a fe'i penodwyd yn aelod o lys y Parlement, ac yno fe gynorthwyodd y cyhoeddwr a dyneiddiwr Nicolas Bérault wrth baratoi casgliad o sylwebaethau ysgolheigaidd ar waith Plinius. Aeth i Rufain i berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Roeg, ac yno astudiodd yng nghwmni Janus Lascaris a Marcus Musurus. Cyfarfu â dyneiddwyr dylanwadol ac ysgolheigion o fri yn Llys y Pab a'r Academi Rufeinig, gan gynnwys Pietro Bembo. Enillodd Longueil enw yn Rhufain am ei rethreg Ciceronaidd. Dychwelodd i Ffrainc am gyfnod o ganlyniad i ffrae rhyngddo ac ambell ysgolhaig arall yn Rhufain. Aeth i Fenis ym 1519 ac i Padova ym 1520, ac yno bu'n byw am gyfnod gyda Bembo. Wedi marwolaeth y Pab Leo X, enillodd Longueil nawdd y Sais Reginald Pole, cefnder i'r Brenin Harri VIII. Pan oedd yn westai yn nhŷ Pole yn Padova, aeth Longueil yn sâl ac yno bu farw.[1]