Ciceroniaeth

tueddiad gan ffigyrau’r Dadeni i ystyried gweithiau Cicero fel delfryd ieithyddol

Tueddiad gan ddyneiddwyr y Dadeni i ystyried gwaith y Rhufeiniwr Marcus Tullius Cicero (106–43 CC) yn batrwm delfrydol ar gyfer arddull ysgrifenedig a rhethregol yn yr iaith Ladin oedd Ciceroniaeth.

Cicero oedd un o brif ffigurau Gweriniaeth Rhufain, y rhyddieithwr mwyaf dylanwadol yn yr iaith Ladin, ac yn debyg yr awdur mwyaf toreithiog o'r cyfnod Groeg-Rufeinig. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd yn enwocaf am ei athroniaeth a chafodd ei werthfawrogi am ei dystiolaeth o fywyd a meddwl yr Henfyd. Yng nghyfnod cynnar y Dadeni Dysg, edmygai arddull Cicero gan y bardd Francesco Petrarca, er nad oedd yn fodlon rhoi'r gorau i eirfa a phriod-ddulliau a oedd yn estron i waith Cicero. Dan ddylanwad Petrarca (1304–74) darllenwyd ei areithiau a llythyrau yn amlach na'i athroniaeth, a newidiodd y portread cyffredin o Cicero'r athronydd moesol yn Cicero y gwleidydd huawdl ac arddullydd Lladin o fri. Atgyfnerthwyd yr enw hwnnw yn nechrau'r 15g pryd ddaeth rhagor o lawysgrifau i'r amlwg yn cynnwys enghreifftiau o'i rethreg yn nghyfnod diweddaraf ei oes.[1]

Yn y 15g dyrchafwyd ysgrifeniadau Cicero yn fodel ar gyfer arddull a geirfa yn yr iaith Ladin gan awduron Ewrop, yn enwedig y dyneiddwyr. Bu nifer ohonynt hefyd yn defnyddio geiriau a chystrawen o lenorion Rhufeinig eraill, ond fel rheol ceisiant efelychu arddull Cicero ym mhopeth. Un o ladmeryddion Ciceroniaeth oedd Pietro Bembo (1470–1547), a ystyrir yn brif feirniad llenyddol y Dadeni Eidalaidd. Mabwysiadwyd Ciceroniaeth yn gryf gan ddyneiddwyr Llys y Pab, a oedd yn ganolfan i ysgolheictod Lladin clasurol.[1]

Gwrthwynebwyd Ciceroniaeth gan ambell Ladinydd, er enghraifft Lorenzo Valla (1407–57) a gymeradwyodd weithiau'r rhethregwr Rhufeinig Quintilian (tua 35–100 CC) yn esiamplau rhagorach o lenyddiaeth Ladin na Cicero. Bu Valla ei hun, ac eraill megis Poliziano (1454–94), yn defnyddio arddull eclectig ac yn barod i efelychu awduron hynafol eraill. Wrth i'r Dadeni ymledu tua'r gogledd, daeth Ciceroniaeth yn boblogaidd ymhlith dyneiddwyr mewn gwledydd eraill, er enghraifft Christophe de Longueil, ond fe'i gwrthwynebwyd gan eraill megis Desiderius Erasmus a wnai Longueil yn gyff gwawd yn ei ymgom Ciceronianus (1528).

Er gwaethaf y ddadl yn ei herbyn, tyfodd Ciceroniaeth yng nghanol yr 16g. Cyhoeddwyd geiriadur Ciceronaidd gan Mario Nizzoli ym 1535, a pharhaodd gwaith Cicero yn agwedd ganolog o addysg Ladin am ganrifoedd. Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, cefnogwyd safonau'r Ciceroniaid gan addysgwyr Protestannaidd megis Philipp Melanchthon yn Wittenberg a Johann Sturm yn Strasbwrg, a hefyd gan Gymdeithas yr Iesu yn y Gwrth-Ddiwygiad.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 77–79.