Beirniad, ysgolhaig, a bardd Eidalaidd oedd Pietro Bembo (20 Mai 147018 Ionawr 1547)[1] a hefyd yn gardinal, un o Farchogion yr Ysbyty, ac un o ffigurau blaenllaw y Dadeni Dysg. Fel meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd, Bembo oedd llenor blaenaf yr Eidal yn y 16g ac fe ddalai'r ffyniant llenyddol a sbardunwyd gan Dante, Petrarch, a Boccaccio yn y cyfnod cynt. Yn anad dim, beirniad chwaeth a safonwr y llên genedlaethol ydoedd, a thrwy ei ddylanwad llewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop. Câi barddoniaeth Bembo ei hanwybyddu gan y mwyafrif o feirniaid diweddarach. Serch hynny, roedd yn un o lenorion dyneiddiol a llyswyr dysgedig amlycaf ei oes ac fe gafodd effaith barhaol ar ddatblygiad yr iaith Eidaleg.[2]

Pietro Bembo
Portread o'r Cardinal Bembo yn ei wisg eglwysig, gan Titian (tua 1540).
Ganwyd20 Mai 1470 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1547 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, cyfieithydd, awdur ysgrifau, offeiriad Catholig, dyneiddiwr, ieithegydd, person dysgedig, gweinidog yr Efengyl, rhyddieithwr, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddcardinal, camerlengo Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGli Asolani, Prose nelle quali si ragiona della volgar lingua, De Aetna, Rime Edit this on Wikidata
TadBernardo Bembo Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Bembo Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

 
Pietro Bembo, Historia Veneta, 1729
 
Llythyr mewn llaw y Cardinal Bembo ar ran y Pab Leo X.

Ganwyd yn Fenis i deulu bonheddig, a chafodd Pietro ei addysg ddyneiddiol gan ei dad Bernardo. Llysgennad dros Weriniaeth Fenis oedd Bernardo, a chrwydrodd y gŵr a'i fab ar draws yr Eidal: Fflorens, Padova, a Messina. Dysgodd Lladin a'r Hen Roeg yn rhugl, a dilynai esiampl ei dad wrth werthfawrogi hefyd yr iaith lafar a llên y gwerin. Mynychodd Pietro llysoedd Ferrara ac Urbino, ac yn Fflorens daeth yn gyfaill i Lorenzo il Magnifico ac yn ffefryn i'r teulu Medici. Symudodd i Rufain ac ym 1513 cafodd ei benodi'n ysgrifennydd a Lladinydd i'r Pab Leo X. Yn sgil marwolaeth Leo X ym 1521, bu Bembo'n ymddeol i Padova. Cymerodd swyddi hanesydd Fenis ym 1529 a llyfrgellydd Eglwys Gadeiriol Sant Marc a dechreuodd ysgrifennu hanes ei ddinas enedigol. Cafodd tri mab gan Rufeines, ond fe beidiodd â'i phriodi gan iddo ofni colli ei fywoliaeth eglwysig. Fe'i benodwyd yn gardinal ym 1539 gan y Pab Pawl III, a dychwelodd felly i Rufain i astudio diwinyddiaeth ac hanes clasurol. Er taw llenyddiaeth yn hytrach na'r eglwys oedd gwir alwedigaeth Pietro, ef oedd un o'r cardinaliaid yn fwyaf tebygol o gymryd swydd y pab.[2] Bu farw yn 1547, yn 76 oed. Cyhoeddwyd ei hanes Fenis, 1487–1513 ar ôl ei farwolaeth (Lladin, 1551; Eidaleg, 1552).

Bembo'r bardd golygu

Cychwynnodd Bembo'r llenor drwy gyfansoddi barddoniaeth delynegol yn Lladin, ac hynny mewn mesur caeth o safon uchel. Fe drodd yn hwyrach at iaith lafar Tysgani, gan fabwysiadau cerddi Petrarch yn batrwm i'w waith. Bembo oedd dynwaredwr enwocaf Petrarch, a gelwir yr arfer lenyddol honno yn bembismo.[1] Ysgrifennodd hefyd ymdriniaeth ymddiddanol ar bwnc serch platonig, Gli Asolani (1505), a'i ysbrydolid gan Symposiwm Platon. Honno oedd y rhyddiaith gyntaf yn y Dysganeg gan awdur nad oedd yn hanu o Dysgani.[2] Cyhoeddwyd casgliad o'i delynegion dan y teitl Rime ym 1530.

Bembo'r beirniad a safonwr iaith golygu

Mae'n debyg taw Prose della volgar lingua (1525; "Rhyddiaith yn iaith y werin") yw'r gramadeg Eidaleg cynharaf. Yn y gwaith hwnnw, gwnai Bembo ddefnydd o'r ymgom wrth gyfundrefnu orgraff a gramadeg yr iaith genedlaethol i osod normau ar gyfer cywair lenyddol Eidaleg ar batrwm barddoniaeth Petrarch a rhyddiaith Boccaccio. Dadleuodd dros sefydlu Tysganeg y 14g – iaith Petrarch – yn sail i'r Eidaleg lenyddol, a chyda nodweddion tafodiaith Fflorens yn enwedig. Nodai'r llyfr hwn drobwynt yn nadl hir yr iaith genedlaethol (questione della lingua).[2] Gwrthwynebai safbwynt Bembo gan y tra-Ladinwyr, a hefyd y llu o blaid cywair fodernach. Llwyddodd safonau Bembo i ennill y ddadl erbyn diwedd y 16g.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Pietro Bembo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Pietro Bembo, Encyclopedia of World Biography (2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Ebrill 2017.

Darllen pellach golygu

  • Cian, Vittorio. Un decennio della vita di M. Pietro Bembo, 1521–1531. Twrin: Loescher, 1885.
  • Cian, Vittorio. "Pietro Bembo: Quarantun anno dopo." Giornale storico della letteratura italiana 88 (1926): tt. 225–255.
  • Dionisotti, Carlo. "Pietro Bembo." Dizionario biografico degli Italiani 8 (1966): tt. 133–151.
  • Kidwell, Carol. Pietro Bembo: Lover, Linguist, Cardinal. Montréal: McGill-Queen’s University Press, 2004.
  • Mazzacurati, Giancarlo. "Pietro Bembo." Yn Storia della cultura veneta: Dal primo Quattrocento al Concilio di Trento. Cyfrol 4. Golygwyd gan Gianfranco Folena, tt. 1–59. Fenis: N. Pozza, 1980.
  • Meneghetti, Gildo. La vita avventurosa di Pietro Bembo, umanista, poeta, cortigiano. Fenis: Tipografia commerciale, 1961.
  • Santoro, Mario. Pietro Bembo. Napoli: Alberto Morano, 1937.
  • Vecce, Carlo. "Pietro Bembo." Yn Centuriæ Latinæ: Cent une figures humanistes de la Renaissance aux Lumières offertes à Jacques Chomarat. Golygwyd gan Colette Nativel, tt. 97–107. Travaux d’Humanisme et Renaissance 314. Genefa: Librairie Droz, 1997.