Chwarel Coed Cochion
Mae Chwarel Coed Cochion wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1981 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 0.04 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. Mae daeareg y safle wedi cadw ffosiliau Cyn-Gambriaidd prin.[2][3]
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.04 ha |
Cyfesurynnau | 51.805567°N 4.418526°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Y dystiolaeth gynharaf a ddarganfuwyd o organebau amlgellog
golyguYn ôl y Grŵp Llinell-Amser Systemau Mwynau (Timescales of Mineral Systems Group) fe gafwyd hyd yn y chwarel ffosiliau hynaf o fywyd cymhleth a hynny drwy'r byd.[4] Trwy osod y ffosiliau hyn o greaduriaid tebyg i slefrod môr ar linell amser hanesyddol, dywed archaeolegwyr ac anthropolegwyr eu bod wedi gallu olrhain cyfnod allweddol yn esblygiad yr anifeiliaid cyntaf ar y Ddaear. Y ffosiliau hyn, felly, yw'r dystiolaeth gynharaf a ddarganfuwyd o organebau amlgellog.
Mae'r safle yn enghraifft brin iawn drwy'r byd o gofnodion ffosil Cyn-Gambriaidd - mwy na 0.5 biliwn o flynyddoedd CP (cyn y presnnol) - a geir yn y graig waddodol lleidfaen (siltstone), llychlyd. Mae nifer o ffosilau o greaduriaid mediwsoid - sy'n edrych yn debyg i'w gilydd, ond efallai ddim mewn gwirionedd i'w cael yno, yn ogystal â llwybrau bwydo creaduriaid eraill. Y dystiolaeth yw bod y safle ar un adeg yn draethlin tywodlyd, lleidiog, lle claddwyd ffawna meddal.[3][5]
SoDdGA (SSSI)
golyguMae SoDdGA Chwarel Coed Cochion yn chwarel fechan iawn o 0.4 hectar (0.99 acer) sydd wedi'i leoli tua 1 filltir (1.6 km) i'r de o Langynog ac 1.3 milltir (2.1 km) i'r gogledd o Lan-y-bri, Sir gaerfyrddin, i'r gogledd-ddwyrain o Aber Taf.[2][3]
Math o safle
golyguFel nodwyd, dynodwyd y safle oherwydd agweddau daearegol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion. Ceir dau fath o safle ddaearegol: rhai a ddaeth i’r wyneb drwy gloddio dyn a safleoedd naturiol bregus yn cynnwys ffurfiau tirweddol, haen bach o waddod neu ogof arbennig.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Dyfodiad SoDdGA ar gyfer Chwarel Coed Cochion
- Map cyfeirnod ar gyfer Chwarel Coed Cochion
- Eich Safle Arbennig a'i Ddyfodol - Trosolwg o SoDdGA Chwarel Coed Cochion gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- SoDdGA Chwarel Coed Cochion wedi'i nodi ar Fap MAGIC DEFRA
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013
- ↑ 2.0 2.1 "MAGIC Map Application - Coed Cochion Quarry". DEFRA MAGIC Map. DEFRA.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Site of Special Scientific Interest, Carmarthenshire, Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales."Site of Special Scientific Interest, Carmarthenshire, Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales.
- ↑ [https://www.itv.com/news/wales/2024-01-17/oldest-signs-of-life-could-have-been-discovered-in-carmarthenshire www.itv.com; adalwyd 17 Ionawr 2024.]
- ↑ "Your Special Site and its Future - Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales.