Armellog
Mamal â phlatiau esgyrnog yn amddiffyn ei ben a'i gorff yw armellog neu armadilo (hefyd dulog yn y Wladfa). Mae armellogion modern yn perthyn i'r teulu Dasypodidae sy'n cynnwys tua 21 o rywogaethau. Fe'u ceir yng Nghanolbarth a De America ac mae un rywogaeth yn cyrraedd de'r Unol Daleithiau. Maent yn hollysyddion sy'n bwydo ar infertebratau, anifeiliaid marw a phlanhigion.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | teulu |
Rhiant dacson | Cingulata |
Dechreuwyd | Mileniwm 58700. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Armellogion | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Xenarthra |
Urdd: | Cingulata |
Teulu: | Dasypodidae Gray, 1821 |
Mae armellogion yn famaliaid brychol (placental mammals]] yn y Byd Newydd yn yr urdd Cingulata. Mae'r enw amgen Armadilo yn golygu "rhai arfog bach" yn Sbaeneg. Y Chlamyphoridae a'r Dasypodidae yw'r unig deuluoedd sydd wedi goroesi yn yr urdd, sy'n rhan o'r Uwch-urdd Xenarthra, sy'n cynnwys hefyd y morgrugyswyr (anteaters) a'r diogynnod ( sloths). Disgrifiwyd naw genws diflanedig a 21 rhywogaeth o armadilo sydd wedi goroesi, a nodweddir rhai ohonynt gan nifer y bandiau ar eu harfwisg. Mae pob rhywogaeth yn frodorol i'r Americas, lle maent yn trigo mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol.
Nodweddir armellogion gan gragen arfwisg lledraidd a chrafangau hir, miniog ar gyfer cloddio. Mae ganddynt goesau byr, ond gallant symud yn eithaf cyflym. Mae hyd cyfartalog armellog tua 75 cm (30 modfedd), gan gynnwys ei gynffon. Mae'r armellog mawr yn tyfu hyd at 150 cm (59 modfedd) ac yn pwyso hyd at 54 kg (119 pwys), tra bod gan y lleiaf yn y genws hyd o 13-15 cm yn unig (5-6 modfedd). Pan fyddant dan fygythiad gan ysglyfaethwr, mae rhywogaethau Tolypeutes yn aml yn rholio i fyny i bêl; dyma'r unig rywogaeth o armadillo sy'n gallu gwneud hyn.
Dosraniad tacsonomegol
golyguTeulu Dasypodidae
- Isdeulu Dasypodinae
- Genws Dasypus
- Armellog nawresog neu armellog trwynhir, Dasypus novemcinctus
- Armellog saithresog, Dasypus septemcinctus
- Armelloog hirdrwyn deheuol, Dasypus hybridus
- Armellog hirdrwyn Llanos, Dasypus sabanicola
- Armellog hirdrwyn mawr, Dasypus kappleri
- Armellog hirdrwyn blewog, Dasypus pilosus
- mulita Yepes, Dasypus yepesi
- †Armellog hardd, Dasypus bellus
- Genws †Stegotherium
- Genws Dasypus
Teulu Chlamyphoridae
- Isdeulu Chlamyphorinae
- Genws Calyptophractus
- Armellog corachaidd mawr, Calyptophractus retusus
- Genws Chlamyphorus
- Armellog rhosliw bach, Chlamyphorus truncatus
- Genws Calyptophractus
- Isdeulu Euphractinae
- Genws Chaetophractus
- Armellog blewog sgrechlyd, Chaetophractus vellerosus
- Armellog blewog mawr, Chaetophractus villosus
- Armellog mawr yr Andes, Chaetophractus nationi
- Genws †Macroeuphractus
- Genws †Paleuphractus
- Genws †Proeuphractus
- Genws †Doellotatus
- Genws †Peltephilus
- +Armellog corniog, Peltephilus ferox
- Genus Euphractus
- Armellog chweresog, Euphractus sexcinctus
- Genus Zaedyus
- Pichi, Zaedyus pichiy
- Genws Chaetophractus
- IsdeuluTolypeutinae
- Genus †Kuntinaru[1]
- Genus Cabassous
- Armellog cynffonfoel gogleddol, Cabassous centralis
- Armellog cynffonfoel Siacoa, Cabassous chacoensis
- Armellog cynffonfoel deheuol, Cabassous unicinctus
- Armellog cynffonfoel mawr, Cabassous tatouay
- Genws Priodontes
- Armellog enfawr, Priodontes maximus
- Genws Tolypeutes
- Armellog teir-resog deheuol, Tolypeutes matacus
- Brazilian three-banded Armellog teir-resog Brasil, Tolypeutes tricinctus
† arwydd tacson diflanedig
Etymoleg
golyguMae'r gair armadilo yn golygu "un arfog bach" yn Sbaeneg. Roedd yr Asteciaid yn eu galw'n āyōtōchtli [aːjoːˈtoːt͡ʃt͡ɬi], Nahuatl am "crwban-gwningen": āyōtl [ˈaːjoːt͡ɬ] (crwban) a tōchtli [ˈtoːt͡ʃt͡ɬi] (crwban). Y gair Portiwgaleg am "armadilo" yw tatu sy'n deillio o'r iaith Tupi. Ceir enwau tebyg hefyd mewn ieithoedd eraill, yn enwedig ieithoedd Ewropeaidd.
Esblygiad
golyguMae ymchwil genetig diweddar yn awgrymu y dylid cynnwys grŵp diflanedig o famaliaid arfog anferth, y glyptodontau, o fewn llinach yr armellogion, ar ôl dargyfeirio tua 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fwy diweddar nag a dybiwyd yn flaenorol[2]
Dosbarthiad daearyddol
golyguFel pob un o linachau Xenarhra, tarddodd armellogion yn Ne America. Oherwydd unigedd y cyfandir gynt, fe'u cyfyngwyd yno am y rhan fwyaf o'r Cenozoig. Caniataodd ffurfio Isthmws Panama yn ddiweddar i ychydig o aelodau'r teulu fudo tua'r gogledd i dde Gogledd America erbyn y Pleistosen cynnar, fel rhan o [[Cyfnewidfa Fawr America|Gyfnewidfa Fawr America].. (Gwnaeth rhai o’u perthnasau llawer mwy eu maint, yr un daith.)
Heddiw, mae'r holl rywogaethau'r armellogion sy'n bodoli yn dal i fod yn bresennol yn Ne America. Maent yn arbennig o amrywiol ym Mharagwâi (lle mae 11 rhywogaeth yn bodoli) a'r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o rywogaethau mewn perygl. Mae rhai, gan gynnwys pedair rhywogaeth o Dasypus, wedi'u dosbarthu'n eang dros yr Americas, tra bod eraill, fel mulita Yepes, wedi'u cyfyngu i diriogaeth bach. Mae dwy rywogaeth, yr armellog cynffon noeth gogleddol ac armellog nawrhesog, i'w cael yng Nghanolbarth America; mae'r olaf hefyd wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau, yn bennaf yn y taleithiau de-canolig (Tecsas yn arbennig), ond gydag ystod sy'n ymestyn mor bell i'r dwyrain â Gogledd Carolina a Fflorida, ac mor bell i'r gogledd â de Nebraska a de Indiana. Mae eu dosbarthiad wedi ehangu'n gyson yng Ngogledd America dros y ganrif ddiwethaf oherwydd diffyg ysglyfaethwyr naturiol. Mae Armadillos yn cael eu cofnodi fwyfwy yn ne Illinois ac yn tueddu tua'r gogledd oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Deiet ac ysglyfaethu
golyguMae diet gwahanol rywogaethau o armellogion yn amrywio, ond maent yn cynnwys yn bennaf pryfed, lindys ac infertebratau eraill. Mae rhai rhywogaethau, fodd bynnag, yn bwydo bron yn gyfan gwbl ar forgrug a termitiaid.
Maen nhw'n gloddwyr toreithiog. Mae llawer o rywogaethau'n defnyddio eu crafangau miniog i gloddio am fwyd, fel cynrhon, ac i gloddio eu gwalau. Mae'n well gan yr armellog nawres adeiladu tyllau mewn pridd llaith ger y nentydd a'r arroyos y mae'n byw ac yn bwydo o'u cwmpas.