Caravaggio
Arlunydd o'r Eidal oedd Michelangelo Merisi da Caravaggio (28 Medi 1571 – 18 Gorffennaf 1610). Caiff ei osod yn gyffredin yn yr ysgol Baróc; ef oedd cynrychiolwr adnabyddus cyntaf yr arddull yma o ddarlunio.[1]
Caravaggio | |
---|---|
Darlun sialc o Caravaggio gan Ottavio Leoni, tua 1621 | |
Ganwyd | Michelangelo Merisi 29 Medi 1571 Milan, Caravaggio |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1610, 1610 Porto Ercole |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Milan |
Galwedigaeth | arlunydd |
Adnabyddus am | Supper at Emmaus, Amor Vincit Omnia, Medusa, Basket of Fruit, The Fortune Teller, The Seven Works of Mercy, Self-Portrait as Bacchus, Bacchus, Annunciation, Judith Beheading Holofernes |
Arddull | peintio genre, paentiadau crefyddol, bywyd llonydd |
Mudiad | Baróc, Gwrth-Ddiwygiad |
Tad | Fermo Merixio |
Mam | Lucia Aratori |
Gwobr/au | Urdd Sofran Milwyr Malta |
llofnod | |
Daeth i Rufain o Milano ym 1592, pan oedd yr arddull o beintio a elwir yn manierismo ar y blaen. Yn wreiddiol fe arbenigai mewn peintio ffrwythau a blodau (pwnc traddiodadol i beintwyr o Lombardia), ond fe ddatblygodd i ddarlunio ffigyrau dynol, gan gynnwys peintiadau "genre" o fywyd pob dydd. Ymhen tipyn fe ddaeth yn beintiwr i'r cardinal Francesco Maria del Monte. Ei ddarluniau mawr cyhoeddus cyntaf oedd Galwedigaeth Sant Mathew a Merthyrdod Sant Mathew yn San Luigi, eglwys y Ffrancod yn Rhufain. Fe beintiodd cymysgedd o weithiau crefyddol, rhai mytholegol a phortreadau o hyn ymlaen. Roedd yn enwog am realaeth ei ddarluniau, a oedd weithiau'n ysgytiol i'w gyfoedion. Roedd ei ddefnydd o olau a thywyllwch, neu chiaroscuro, yn enwedig o feistrolgar a dylanwadol.
Roedd ei fywyd yn gythryblus o fry; ffodd o Rufain ym 1606 ar ôl lladd gŵr o'r enw Ranuccio Tomassoni mewn gornest ar gwrt tenis. Ffodd yn gyntaf i Napoli ac yna i Malta. Yno fe ddaeth yn farchog yn Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, ac fe beintiodd ddarlun o Ddienyddiad Ioan Fedyddiwr uwchben allor y marchogion yng nghadeirlan Valletta. Ond ymhen llai na blwyddyn fe'i fwrwyd allan o Urdd Sant Ioan ar ôl iddo ymosod ar farchog arall. Teithiodd hyd a lled Sisili a Napoli yn ceisio osgoi ei elynion, ac fe fu farw o dwymyn yn Porto Ercole yn Toscana ym 1610, yn 38 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gilles Neret. Caravaggio (yn Saesneg). Taschen. t. 93. ISBN 978-3-8365-3685-1.