Clement Freud
Darlledwr, llenor a gwleidydd o Loegr oedd Syr Clement Raphael Freud (24 Ebrill 1924 – 15 Ebrill 2009). Roedd yn enwog am "ei olwg lechgïaidd, meddwl craf, a ffraethineb egr".[1]
Clement Freud | |
---|---|
Ganwyd | Clemens Rafael Freud 24 Ebrill 1924 Berlin |
Bu farw | 15 Ebrill 2009 Llundain |
Man preswyl | Hampstead |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pen-cogydd, gwleidydd, cyflwynydd radio, awdur plant, llenor, newyddiadurwr, perchennog bwyty |
Swydd | Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Ernst Ludwig Freud |
Mam | Lucie Brasch |
Priod | June Flewett |
Plant | Emma Freud, Matthew Freud, Nicola Mary Freud, Dominic Martin Freud |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganwyd ym Merlin, a symudodd ei deulu i Loegr ym 1933. Ymunodd ei daid enwog, y seiciatrydd Sigmund Freud, â'r teulu ym 1938. Roedd Clement yn frawd iau i'r arlunydd Lucian Freud; wedi eu plentyndod, nid oedd y ddau yn siarad am y mwyafrif o'u hoes.
Aeth yn brentis coginio a rheoli gwesty. Wedi iddo wasanaethu gyda Reifflwyr Brenhinol Wlster yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn gogydd, rheolwr bwyty, a newyddiadurwr bwyd a diod. Dechreuodd ysgrifennu ar bynciau eraill, megis chwaraeon, a daeth yn sylwebydd. Daeth yn wyneb gyfarwydd wrth ymddangos mewn cyfres o hysbysebion teledu am fwyd ci. Enillodd ei enw fel storïwr ffraeth ar y sioe banel Just a Minute ar radio'r BBC.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Ryddfrydol dros Ynys Ely ym 1973. Ymhlith ei hoff achosion oedd addysg, noddi'r celfyddydau, a rhyddid gwybodaeth. Collodd ei sedd ym 1987.
Priododd yr actores Jilly Raymond ym 1950 a chafodd tri mab a dwy ferch. Bu farw Clement Freud yn 84 oed. Yn 2016 fe'i gyhuddwyd o drais a cham-drin rhywiol gan dair menyw.
Llyfryddiaeth
golygu- Grimble (1968)
- Grimble at Christmas (1973)
- Freud on Food (1978)
- Clicking Vicky (1980)
- The Book of Hangovers (1981)
- Below the Belt (1983)
- No one Else Has Complained (1988)
- The Gourmet's Tour of Great Britain and Ireland (1989)
- Freud Ego (2001)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Harry Legge-Bourke |
Aelod Seneddol dros Ynys Ely 1973 – 1983 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Ogledd-ddwyrain Swydd Gaergrawnt 1983 – 1987 |
Olynydd: Malcolm Moss |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir Clement Raphael Freud. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2016.