Clenennau

adeilad rhestredig Gradd II* yn Nolbenmaen

Plasdy hynafol yn Eifionydd, Gwynedd yw'r Clenennau. Daeth yn ganolfan Ystâd Clenennau a chwareuodd ran bwysig yn hanes y rhan honno o Ogledd Cymru. Heddiw mae'n ffermdy.

Clenennau
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolClenennau Estate Edit this on Wikidata
LleoliadDolbenmaen Edit this on Wikidata
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr136 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9593°N 4.18686°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Lleoliad golygu

Saif Clenennau yn ardal Penmorfa tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog yn rhan isaf Cwm Ystradllyn, Eryri, tua hanner milltir i'r dwyrain o bentref Golan.


Hanes golygu

Roedd teulu'r Clenennau yn un o bedwar teulu grymus yn Eifionydd - gyda teuluoedd plasdai cyfagos Y Gesail Gyfarch, Ystumcegid a Bryncir - a hawliai eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r brenin Owain Gwynedd. Yn yr 16g, unwyd ystadau Clenennau a Brogyntyn (ger Croesoswallt) pan briododd Syr William Maurice, aer Clenennau, ag aeres Brogyntyn.

Un o breswylwyr enwocaf Clenennau oedd Syr John Owen (1600-1666), a gododd wrthryfel yng Ngogledd Cymru o blaid y brenin Siarl I yn erbyn llywodraeth Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Cyfeiriadau golygu