Cliff Bowen

chwarewr rygbi'r unded

Roedd Clifford "Cliff" Alfred Bowen (3 Ionawr 1875 - 30 Ebrill 1929) [1] yn asgellwr rygbi'r undeb a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli a rygbi rhyngwladol i Gymru. Roedd hefyd yn gricedwr brwd, yn chwarae i Lanelli a Sir Gaerfyrddin ym Mhencampwriaeth Criced y Siroedd Llai.

Cliff Bowen
Enw llawn Clifford Alfred Bowen
Dyddiad geni (1875-01-03)3 Ionawr 1875
Man geni Treforys
Dyddiad marw 30 Ebrill 1929(1929-04-30) (54 oed)
Lle marw Rickmansworth
Gwaith Peiriannydd trydanol
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Asgellwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau

1899
Llanelli
Devonport Albion
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1896–1897  Cymru 4 (3)

Bywyd personol golygu

Ganwyd Cliff Bowen yn Nhreforys yn fab i Samuel Bowen, gwneuthurwr cemegolion, a Sarah (née Morgan) ei wraig. Mewn cyfnod pan oedd chware rygbi yn weithgaredd amatur, bu Bowen yn gweithio fel peiriannydd trydanol. Ym 1902 priododd Bowen yn Eglwys yr Holl Saint, Llanelli â Sarah Edith Davies, merch William Davies argraffydd, Llanelli.[2] Bu iddynt un ferch. Bu farw Bowen yn Rickmansworth, Swydd Hertford yn 54 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys y Drindod, Felinfoel.[3]

Gyrfa rygbi golygu

Dewiswyd Bowen gyntaf ar gyfer tîm rhyngwladol Cymru ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1896, yn erbyn Lloegr. Daethpwyd â Bowen i mewn i'r trichwarterwyr gyferbyn â Bert Dauncey o Gasnewydd ar yr asgell. Cadwodd Bowen a Dauncey eu safleoedd trwy gydol y twrnamaint. Nhw oedd y pâr o asgellwyr gyntaf i wneud hynny ers Biggs a McCutcheon ym Mhencampwriaeth Coron Driphlyg Cymru ym 1893. Roedd gêm 1896 yn erbyn Lloegr a chwaraewyd ar faes Blackheath, Llundain yn drychineb i dîm Cymru. Collodd Cymru'r ornest o saith cais i ddim,[4] ac ymatebodd detholwyr Cymru gyda newidiadau ysgubol i'r pac. Cafwyd gwell hwyl yn y gêm ganlynol gyda buddugoliaeth i Gymru o 6 phwynt i ddim yn erbyn yr Alban. O'r ddau gais a sgoriodd Cymru yn yr ornest daeth y ddau o'r trichwarterwyr; un gan Gould a'r llall gan Bowen, yr unig bwyntiau rhyngwladol iddo gael.[5] Gêm oddi cartref i Iwerddon oedd gêm olaf cyfres 1896. Dioddefodd y pac dibrofiad yn wael o dacteg cic a rhuthr Iwerddon, ac roedd yr hanerwr newydd Llewellyn Lloyd yn derbyn ymosodiadau trwm gan y Gwyddelod trwy gydol y gêm. Er gwaethaf gôl adlam gan Gould, collodd Cymru 4-8.[6]

Enillodd Bowen un cap arall i Gymru, yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth 1897 yn erbyn Lloegr, y tro hwn mewn partneriaeth ar yr asgell â Tom Pearson. Ar ôl cywilydd 1896, gwelwyd canlyniad gwahanol iawn yn y gêm hon wrth i Gymru defnyddio eu tacteg newydd o gyflwyno "Blaenwyr Rhondda" i'r rheng blaen - dynion oedd wedi magu cyrff cryf trwy weithio yn y diwydiannau trwm. Enillodd Cymru o 11 pwynt i ddim. Dim ond un gêm a gwblhaodd Cymru yn ystod y bencampwriaeth hon wedi i Undeb Rygbi Cymru dynnu allan o’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ym mis Chwefror 1897 oherwydd yr anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan y gwledydd eraill. Gan hynny nid oedd Cymru yn gymwys i chwarae unrhyw gemau rhyngwladol pellach, a phan aildderbyniwyd Cymru ym 1898, roedd Bowen wedi symud ymlaen ac nid oedd bellach yn rhan o dîm Cymru.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru [7]

Gyrfa criced golygu

Mae'r adroddiad cyntaf o Bowen yn rhan o gêm griced ym 1891 pan drodd allan i Lanelli yn erbyn tîm o Lanymddyfri. Er iddo ddod i mewn i fatio yn rhif deg, nid oedd ymhlith y bowlwyr y diwrnod hwnnw. Erbyn 1908, roedd Bowen yn chwarae ym Mhencampwriaethau'r Siroedd Llai, yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn erbyn Sir Fynwy. Ar ôl cyfanswm o fatiad cyntaf 313 Sir Fynwy, cafodd Sir Gaerfyrddin eu trechu am 41 chwithig, gyda Bowen yn colli ei wiced yn ddi-rediad. Nid oedd ail fatiad Sir Gaerfyrddin llawer gwell f ond o leiaf aeth Bowen ar y bwrdd gyda saith rhediad o gyfanswm tîm o 101. Yng ngêm nesaf Pencampwriaeth 1908, a chwaraewyd yn erbyn Morgannwg ar faes y Gnoll, Bowen oedd y batiwr agoriadol. Gorffennodd y batiad cyntaf ar 27 llawer mwy parchus, wedi'i fowlio gan Jack Nash. Er i Sir Gaerfyrddin golli eto gan fatiad, gwnaeth Bowen 64 rhediad yn ei ail safiad, cyfanswm ail uchaf yr ornest. Roedd tîm Morgannwg Bowen a wynebwyd y diwrnod hwnnw yn cynnwys cyn chwaraewr rhyngwladol rygbi Cymru, Billy Bancroft, a oedd yn gefnwr i Bowen ym mhob un o'i bedwar ymddangosiad rygbi rhyngwladol. Ar ôl cyfarfod arall â Morgannwg, a arweiniodd at drydedd golled yn olynol o fatiad, chwaraeodd Sir Gaerfyrddin yn erbyn Dyfnaint ar Barc y Stradau. Daeth Bowen i mewn i fatio yn bedwerydd yn y ddwy gêm, a ddaeth i ben mewn colled gyfarwydd i Sir Gaerfyrddin.

Dim ond mewn un gêm o dymor 1909 y chwaraeodd Bowen, colled gartref i Gernyw, ond ym 1910 cafodd ei ddewis i wynebu Morgannwg yn un o'i gemau gwell.[8] Batiodd Morgannwg yn gyntaf, ac roedd Bowen ymhlith y bowlwyr, y tro cyntaf iddo gael nifer ddifrifol o belawdau ar lefel y Sir hyd yma. Sicrhaodd bum wiced gan gynnwys y ddau agorwr, ac un ohonynt oedd Bancroft. Sgoriodd y rhediadau uchaf gyda’r bat i Swydd Gaerfyrddin yn eu batiad cyntaf, ond roedd yn absennol o’r tîm pan wnaethon nhw daro yn yr ail fatiad. Roedd ei Bencampwriaeth Siroedd olaf ym 1911, unwaith eto yn erbyn Morgannwg, a gollodd Sir Gaerfyrddin o fatiad, Bowen yn gwneud dim ond llond llaw o rediadau yn rhif 11. Roedd yn dal i chware Criced i Fonheddwyr Sir Gaerfyrddin hyd 1913[9] a thîm Llanelli ym 1919.[10]

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cliff Bowen player profile Scrum.com
  2. Archifau Cymru: Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau Anglicanaidd Sir Gaerfyrddin; Cyfeirnod: CPR/81/4 Cofrestr Priodasau Eglwys yr Holl Saint Llanelli tudalen 193 rhif 386
  3. Archifau Cymru: Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau Anglicanaidd Sir Gaerfyrddin; Cyfeirnod: CPR / 78/11 Cofrestr Claddu Eglwys y Drindod Felin-foel 1929 Tudalen 25 rhif 196
  4. "ENGLAND V WALES - The Cambrian". T. Jenkins. 1896-01-10. Cyrchwyd 2021-03-01.
  5. "WALES v SCOTLAND - South Wales Echo". Jones & Son. 1896-01-27. Cyrchwyd 2021-03-01.
  6. "Ireland v Wales - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-03-16. Cyrchwyd 2021-03-01.
  7. Smith (1980), tudalen 464.
  8. "COUNTY CRICKET MATCH - The Llanelly Mercury and South Wales Advertiser". Llanelly Mercury Printing Company Limited. 1910-06-02. Cyrchwyd 2021-03-01.
  9. "Carmarthen Gentlemen Win - The Amman Valley Chronicle and East Carmarthen News". Gwilym Vaughan. 1913-07-24. Cyrchwyd 2021-03-01.
  10. "WORLD OF SPORT - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1919-07-21. Cyrchwyd 2021-03-01.