Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897 oedd y bymthegfed ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd pedair gêm rhwng 9 Ionawr a 13 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897 | |||
---|---|---|---|
Tîm Lloegr (v Cymru) | |||
Dyddiad | 9 Ionawr - 13 Mawrth 1897 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | neb | ||
Cwpan Calcutta | Lloegr | ||
Gemau a chwaraewyd | 4 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Byrne (12) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Bulger (2) Gardiner (2) | ||
|
Dim ond un gêm a gwblhaodd Cymru yn ystod y bencampwriaeth hon wedi i Undeb Rygbi Cymru dynnu allan o’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ym mis Chwefror 1897 oherwydd yr anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan y gwledydd eraill. Gan hynny nid oedd Cymru yn gymwys i chwarae unrhyw gemau rhyngwladol pellach.
Roedd y rheolau ar y pryd yn nodi y byddai'r tabl terfynol yn cael ei benderfynu ar bwyntiau gêm ac yna pwyntiau a sgoriwyd. Wrth i bob tîm orffen gyda dau bwynt gêm, bu'r bencampwriaeth yn ddamcaniaethol gyfartal. Hawliodd Lloegr y teitl trwy eu sgôr uwch, er iddynt golli eu dwy gêm gyntaf ac ildio mwy o geisiadau a phwyntiau nag unrhyw un o'r tair gwlad arall.[1] Mae'r mwyafrif o ffynonellau yn rhestru canlyniad pencampwriaeth 1897 fel un "heb ei chwblhau" oherwydd nad oes modd dod i benderfyniad teg ar bwy oedd yn fuddugol.
System sgorio
golyguPenderfynwyd ar y gemau ar gyfer y tymor hwn ar bwyntiau a sgoriwyd. Roedd cais werth tri phwynt, tra bod trosi gôl wedi’i chicio o’r cais yn rhoi dau bwynt ychwanegol. Roedd gôl a ollyngwyd o'r marc a gôl adlam ill dau werth pedwar pwynt. Roedd goliau cosb werth tri phwynt.
Tabl
golyguSafle | Gwlad | Gemau | Pwyntiau | Table points | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Chwarae | Ennill | Cyfartal | Colli | Dros | Yn erbyn | Gwahan. | |||
1 | Lloegr | 3 | 1 | 0 | 2 | 21 | 27 | −6 | 2 |
1 | Iwerddon | 2 | 1 | 0 | 1 | 16 | 17 | −1 | 2 |
1 | Cymru | 1 | 1 | 0 | 0 | 11 | 0 | +11 | 2 |
1 | yr Alban | 2 | 1 | 0 | 1 | 11 | 15 | −4 | 2 |
Canlyniadau
golyguHeb eu chwarae
golygu- Cymru v. Iwerddon
- Yr Alban v. Cymru
Y gemau
golyguCymry v. Lloegr
golyguCymru:
Lloegr: J. F. Byrne (Mosley), FA Byrne (Mosley), Ernest Fookes (Sowerby Bridge), EM Baker (Prifysgol Rhydychen), T Fletcher (Seaton), Cyril Wells (Harlequins), EW Taylor (Rockcliff) capt., F Jacob (Prifysgol Caergrawnt), JH Baron (Bingley), PJ Ebdon (Wellington), RF Oakes (Hartlepool Rovers), WB Stoddart (Liverpool), Frank Stout (Gloucester), W Ashford (Richmond), RH Mangles (Richmond)
Iwerddon v. Lloegr
golygu6 Chwefror 1897
|
Iwerddon | 13 – 9 | Lloegr |
---|---|---|
Cais: Gardiner (2) Bulger GM: Bulger |
Cais: Robinson Pen: Byrne (2) |
Iwerddon: J Fulton (C R Gogledd yr Iwerddon), W Gardiner (C R Gogledd yr Iwerddon), S Lee (C R Gogledd yr Iwerddon), Lawrence Bulger (Prifysgol Dulyn), TH Stevenson (Queen's Uni, Belfast), Louis Magee (Bective Rangers), GG Allen (Derry), JE McIlwaine (C R Gogledd yr Iwerddon), JH Lytle (Lansdowne), WG Byron (C R Gogledd yr Iwerddon), M Ryan (Rockwell College), J Ryan (Rockwell College), EG Forrest (Wanderers) capt., Andrew Clinch (Wanderers), CV Rooke (Monkstown)
Lloegr: J. F. Byrne (Mosley), G.C. Robinson (Percy Park), Ernest Fookes (Sowerby Bridge), JT Taylor (Castleford), WL Bunting (Richmond), S Northmore (Millom), EW Taylor (Rockcliff) capt., F Jacob (Prifysgol Caergrawnt), JH Baron (Bingley), PJ Ebdon (Wellington), RF Oakes (Hartlepool Rovers), WB Stoddart (Liverpool), Frank Stout (Gloucester), W Ashford (Richmond), RH Mangles (Richmond)
Yr Alban V. Iwerddon
golyguYr Alban: AR Smith (Prifysgol Rhydychen), W Neilson (Albanwyr Llundain), GT Campbell (Albanwyr Llundain), CJN Fleming (Edinburgh Wanderers), T Scott (Hawick), RC Greig (Glasgow Academicals), M Elliot (Hawick), Robert MacMillan (Albanwyr Llundain) capt., JH Dods (Albanwyr Llundain), MC Morrison (Royal HSFP), WMC McEwan (Edinburgh Academicals), TM Scott (Hawick), RC Stevenson (Albanwyr Llundain), GO Turnbull (Gorllewin yr Alban), Alex Laidlaw (Hawick)
Iwerddon: Pierce O'Brien-Butler (Monkstown), W Gardiner (C R Gogledd yr Iwerddon), Lucius Gwynn (Prifysgol Dulyn), Lawrence Bulger (Prifysgol Dulyn), TH Stevenson (Belfast Albion), Louis Magee (Bective Rangers), GG Allen (Derry), JE McIlwaine (C R Gogledd yr Iwerddon), JH Lytle (Lansdowne), WG Byron (C R Gogledd yr Iwerddon), M Ryan (Rockwell College), Jim Sealy (Prifysgol Dulyn), EG Forrest (Wanderers) capt., Andrew Clinch (Wanderers), CV Rooke (Monkstown)
Lloegr v. Yr Alban
golygu13 Mawrth 1897
|
Lloegr | 12 – 3 | yr Alban |
---|---|---|
Cais: Fookes Robinson Trosiad: Byrne G. Adlam: Byrne |
Cais: Bucher |
Lloegr: J. F. Byrne (Mosley), G.C. Robinson (Percy Park), Ernest Fookes (Sowerby Bridge), Osbert Mackie (Prifysgol Caergrawnt), WL Bunting (Richmond), Cyril Wells (Harlequins), EW Taylor (Rockcliff) capt., F Jacob (Prifysgol Caergrawnt), J Pinch (Lancaster), E Knowles (Millom), RF Oakes (Hartlepool Rovers), WB Stoddart (Lerpwl), HW Dudgeon (Richmond), LF Giblin (Prifysgol Caergrawnt), JAS Davidson (Aspatria)
Yr Alban: AR Smith (Prifysgol Rhydychen), W Neilson (Albanwyr Llundain), Alf Bucher (Edinburgh Academicals), AW Robertson (Edinburgh Academicals), T Scott (Hawick), JW Simpson (Royal HSFP), M Elliot (Hawick), Robert MacMillan (Albanwyr Llundain) capt., JH Dods (Albanwyr Llundain), MC Morrison (Royal HSFP), WMC McEwan (Edinburgh Academicals), TM Scott (Hawick), RC Stevenson (Albanwyr Llundain), GO Turnbull (Gorllewin yr Alban), Andrew Balfour (Prifysgol Caergrawnt)
Ffynonellau
golygu- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Godwin (1984), tud 49.
Dolenni allanol
golygu- "6 Nations History". rugbyfootballhistory.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2020-09-01.
Rhagflaenydd Y Pedair Gwlad 1896 |
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897 |
Olynydd Y Pedair Gwlad 1898 |