Bert Dauncey

chwaraewr rygbi'r undeb a chwaraewr tenis

Roedd Frederick Herbert Dauncey (1 Rhagfyr 187130 Hydref 1955) [2] yn asgellwr rygbi'r undeb ryngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd ac a gafodd ei gapio deirgwaith i Gymru. Roedd Dauncey yn sbortsmon amryddawn. Yn ogystal â chwarae rygbi bu'n cynrychioli Cymru mewn tenis a Chasnewydd mewn hoci maes. Bu hefyd yn rasio cerdded fel aelod o Gymdeithas Athletau Casnewydd.[3]

Bert Dauncey
Enw llawn Frederick Herbert Dauncey
Dyddiad geni (1871-12-01)1 Rhagfyr 1871
Man geni Pont-y-pŵl
Dyddiad marw 30 Hydref 1955(1955-10-30) (83 oed)
Lle marw Casnewydd
Taldra 5'10"[1]
Pwysau 11st 4lb[1]
Ysgol U. Ysgol Ramadeg Harri VIII, Y Fenni
Gwaith cyfreithiwr
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Asgellwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1887-1900[1] Casnewydd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1896  Cymru 3 ()

Bywyd personol golygu

Ganwyd Bert Dauncey ym Mhont-y-pŵl yn fab i Frederick Stephen Dauncey, cyfreithiwr, a Louisa (née Parry) ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Brenin Harri VIII yn y Fenni ac roedd yn aelod gydol oes o gymdeithas Hen Fechgyn yr ysgol. Mewn cyfnod pan oedd chware rygbi yn weithgaredd amatur, bu Dauncey yn gweithio fel cyfreithiwr. Ym 1900 priododd Dauncey yn Eglwys y Plwyf, Maendy â Beatrice May Howard-Jones, merch George Inglis Jones, perchennog cwmni llongau a chonswl Prydeinig i Rwmania.[4] Bu iddynt bedwar o blant. Bu farw Dauncey yng Nghasnewydd, yn 83 mlwydd oed.

Gyrfa rygbi golygu

Daeth Dauncey i'r amlwg fel chwaraewr Casnewydd, gan ymuno â'r clwb ym 1887. Gwnaeth Dauncey 178 ymddangosiad i Gasnewydd, gan sgorio 94 cais, 9 trosiad ac un gôl adlam. Chwaraeodd Dauncey yn y trichwarterwyr gyda dau chwaraewr rygbi rhyngwladol amlwg o Gymru, Tom Pearson ac Arthur Gould.[5]

Ym 1896 enillodd Dauncey ei gap rhyngwladol cyntaf, pan gafodd ei ddewis i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad. Wedi ei osod yn y tîm yn lle Tom Pearson, cyd-aelod o dîm Casnewydd, roedd Dauncey wedi'i leoli ar yr asgell gyferbyn â chap newydd arall, Cliff Bowen. Collodd Cymru 25-0 i Loegr. Ymatebodd y detholwyr o Gymru trwy wneud sawl newid i bac Cymru, ond ar wahân i ddisodli Owen Badger a rhoi ei le i Gwyn Nicholls, gadawyd y trichwarterwyr ar eu pennau eu hunain, gan roi ail gap i Dauncey yn ail gêm y twrnamaint, cartref yn erbyn yr Alban. Cafodd y gêm ei chwarae ym Mharc yr Arfau Caerdydd, rhoddodd dau gais yn yr ail hanner fuddugoliaeth i Gymru dros yr Alban. Chwaraeodd Dauncey ei gêm ryngwladol ddiwethaf, gêm olaf Cymru yn nhymor 1895/96, oddi cartref yn yr Iwerddon, chollodd Cymru o 4 pwynt i 8. Y tymor olynol disodlwyd Dauncey gan ddychweliad Tom Pearson.

Gemau rhyngwladol golygu

Gyrfa tenis golygu

Chwaraeodd Dauncey denis ar lefel genedlaethol, gan gynrychioli tîm Cymru mewn mân dwrnameintiau. Ym 1906, fe fu'n bartner i bencampwr Wimbledon, May Sutton, mewn gêm dyblau cymysg ym Mhencampwriaeth Tenis Cymru, er iddynt gael eu curo yn yr ail rownd, aeth Sutton ymlaen i ennill pencampwriaeth y merched.[6]

Gyrfa hoci golygu

Chwaraeodd Dauncey, fel cyd-chwaraewr rygbi Cymru Theo Harding, hoci maes. Olynodd Dauncey Harding fel capten tîm dynion Clwb Hoci Casnewydd yn ystod tymor 1902. Roedd yn aelod o bwyllgor dewiswyr tîm hoci rhyngwladol Cymru,[7] ac yn ddyfarnwr mewn gemau hoci rhyngwladol.[8]

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 978-0-00-218060-3.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 978-0-460-07003-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-01-04. Cyrchwyd 2021-03-01.
  2. Bert Dauncey player profile Scrum.com
  3. "ATHLETIC SPORTS AT NEWPORT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-04-19. Cyrchwyd 2021-03-01.
  4. Archifau Cymru: Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau Anglicanaidd Sir Fynwy Cofrestr Priodasau Eglwys y Plwyf Maendy tudalen 29 rhif 58
  5. Trevelyan, G.M. Fifty Years: Memories and Contrasts: A Composite Picture of the Period 1882-1932, Thornton Butterworth Ltd. tud 206 adalwyd 1 Mawrth 2021
  6. New York Times archive
  7. "PORTMADOC - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1906-02-02. Cyrchwyd 2021-03-01.
  8. "International Hockey - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-03-11. Cyrchwyd 2021-03-01.