Llewellyn Lloyd
Roedd George Llewellyn Lloyd (26 Chwefror 1877 - 1 Awst 1957) yn faswr rhyngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi sirol gyda Chaint. Enillodd 12 cap i Gymru a bu'n gapten ar y tîm ar un achlysur yn erbyn yr Alban. [1]
Llewellyn Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | Gorffennaf 1877 Casnewydd |
Bu farw | 1 Awst 1957 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd personol
golyguGanwyd Lloyd yng Nghasnewydd, yn blentyn i Henry George Lloyd, cyfreithiwr ac Elizabeth Hughes ei wraig, fe'i haddysgwyd yn The Leys School, Caergrawnt a Coomb Down School, Caerfaddon. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel cyfreithiwr. Ym 1906 priododd Kathleene Howard. Bu iddynt un mab.
Bu farw o anafiadau i'w ben yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn dilyn damwain pan syrthiodd landerydd oddi ar do sinema Tredegar Hall a'i daro. Roedd yn 80 mlwydd oed. [2]
Gyrfa rygbi
golyguChwaraeodd Lloyd fel cefnwr i Gymru mewn oes cyn i safleoedd arbenigol gael eu mabwysiadu ac ynghyd â’i gyd-chwaraewr o Gasnewydd, Lou Phillips ffurfiodd bartneriaeth gref[3] yn rhannu dyletswyddau'r maswr, gweithio’r sgrymio a chwarae ar yr ystlysau. [4] Nid oedd yn un o'r ymosodwr ffrwydrol a daethai’n nodweddiadol o chwarae Cymreig yn ddiweddarach, roedd yn cael ei ystyried yn chwaraewr o nerfau tawel a allai aros yn hunanfeddiannol o dan bwysau.
Bu Lloyd yn gapten ar Gasnewydd am bedwar tymor rhwng 1899 a 1903, yn y tri thymor olaf collodd y tîm ddim ond 7 allan o 89 gêm. Yn gynnar yn 1899 cwblhaodd Lloyd yr olaf o'i arholiadau cyfraith, gan gymhwyso fel cyfreithiwr. [5]
Gyrfa ryngwladol
golyguGwnaeth Lloyd ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iwerddon ym 1896 ar ôl ymadawiad olwyr Abertawe Evan a David James. [6] Collodd Cymru'r ornest mewn gêm ymosodol a chwaraewyd ar faes lleidiog. [4] Rhwng Jones yn symud i Lundain am gyfnod a'r flwyddyn a gollodd Cymru yn ystod y 'Achos Gould', ni enillodd cap arall tan 1899. Ymddangosodd Lloyd chwe gwaith arall gyda Phillips cyn i yrfa Phillips dod i ben wedi iddo gael chwalfa nerfol yn ystod gêm yr Alban ym 1901. Ar gyfer y gêm nesaf gollyngwyd Lloyd pan ddewisodd y detholwyr Cymreig maswyr Abertawe, Owen a Jones. Cafodd Lloyd ei alw’n ôl yn ystod tymor 1901/02, yn bennaf oherwydd ei waith clwb gyda’r seren o chwaraewr Gwyn Nicholls. Ym 1903 ymddeolodd Lloyd o rygbi rhyngwladol oherwydd pwysau proffesiynol.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [7]
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wales' rugby captains". 2010-10-26. Cyrchwyd 2021-04-11.
- ↑ Western Mail 01 Awst 1957 tud 5 "Solicitor is still seriously ill"
- ↑ "FAMOUS WELSH ATHLETE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1916-03-27. Cyrchwyd 2021-04-11.
- ↑ 4.0 4.1 Thomas (1979), tud 20.
- ↑ "Football". Evening Express. papuraunewyddcymru.llgc.org.uk. 11 February 1899. t. 2. Cyrchwyd 14 July 2013.[dolen farw]
- ↑ Smith (1980), tud 131.
- ↑ Smith (1980), tud 468.