Cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Seisnig oedd Arthur Clifford Michelmore, CBE (11 Rhagfyr 191916 Mawrth 2016), adwaenir fel Cliff Michelmore. Roedd yn fwyaf adnabyddus am y rhaglen deledu Tonight ar y BBC, a gyflwynodd rhwng 1957 a 1965. Fe oedd prif gyflwynwr darllediad teledu'r BBC o laniadau Apollo ar y lleuad, trychineb Aberfan, etholiadau cyffredinol y DU yn 1966 a 1970 ac arwisgiad Y Tywysog Siarl fel Tywysog Cymru yn 1969. Fe'i gwnaed yn Gadlywydd o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 1969.

Cliff Michelmore
Ganwyd11 Rhagfyr 1919 Edit this on Wikidata
Cowes Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 2016, 17 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Petersfield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Loughborough College
  • Cowes Enterprise College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
PriodJean Metcalfe Edit this on Wikidata
PlantGuy Michelmore Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Michelmore yn Cowes, Ynys Wyth, yn 1919,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Cowes, Coleg Loughborough a Choleg Technoleg a Chelf Leicester. Roedd yn aelod o'r 32ain mynediad i'r Cynllun Prentisiaeth Awyrennau yn Ysgol Rhif 1, Hyfforddi Technegol yr RAF yn RAF Halton. Roedd yn arweinydd sgwadron yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chychwynnodd ddarlledu ar radio'r Lluoedd Prydeinig. Ar ôl y rhyfel, fe weithiodd i BBC Radio a theledu fel sylwebydd chwaraeon llawrydd, yna fel gohebydd newyddion a chynhyrchydd rhaglenni plant, yn cynnwys All Your Own. Fe briododd Michelmore nyrs yn ystod y rhyfel ond ysgarodd yn 1949.[2]

Ar 4 Mawrth 1950 priododd Jean Metcalfe, cyhoeddwr BBC, oedd yn cyflwyno Two-Way Family Favourites yn Llundain tra oedd e yn cyflwyno'r ddolen o Hamburg mewn rhaglen ar gyfer y Gwasanaeth Darlledu Lluoedd Prydeinig. Ni wnaeth y ddau gyfarfod wyneb yn wyneb am chwe mis, ond yn fuan ar ôl cyfarfod fe ddyweddïodd a phriododd y cwpl. Galwodd Cliff hyn yn 'gariad ar y clyw cyntaf'.[3] Cafodd y cwpl ferch, yr actores Jenny Michelmore, a mab, y darlledwr a chyfansoddwr Guy Michelmore.

Gyrfa golygu

Rhwng 1955 a 1957 cyflwynodd Michelmore y rhaglen deledu Highlight ar y BBC, sioe materion cyfoes gydag enw am gyfweliadau digyfaddawd. Ar 18 Chwefror 1957 daeth yn brif gyflwynydd y sioe gylchgrawn ddyddiol Tonight, a barhaodd am wyth mlynedd a ddenodd wyth miliwn o wylwyr ar ei anterth. Mae'n debyg fod hyn yn ei wneud y person oedd yn ymddangos fwyaf aml ar deledu yn y cyfnod, ac felly yn un o'r unigolion mwyaf adnabyddus yn y DU. Fe'i henwyd yn Bersonoliaeth Teledu'r Flwyddyn gan BAFTA yn 1958.[4] Ymddangosodd David Bowie ar y teledu am y tro cyntaf yn 17 mlwydd oed ar Tonight yn 1964. Cyflwynwyd Bowie fel sylfaenydd a llefarydd y 'Gymdeithas dros Atal Creulondeb i Ddynion gyda Gwallt Hir'.

Pan ddaethTonight i ben yn 1965, cyflwynodd Michelmore gyfres ar BBC One o'r enw 24 Hours[5] hyd 1968. Yn 1967 cyflwynodd rhan y DU o Our World (TV special),[6] darllediad teledu byd-eang a oedd y cyntaf i ddefnyddio cyfathrebu lloeren mewn ymgais i "gysylltu'r byd i gyd trwy deledu".[7] Roedd y sioe yn cynnwys perfformiad gan y Beatles o'u cân "All You Need Is Love". Roedd Michelmore yn arfer honni[8] fod y gân wedi ei ysbrydoli yn rhannol gan logo Our World, cadwyn o ffigyrau yn dal dwylo o gwmpas y byd. Yn y 1970au a hyd at ddiwedd cyfnod Southern Television yn Rhagfyr 1981 (cwmni teledu ITV ar gyfer rhan fwyaf o dde Lloegr), roedd Michelmore yn brif gyflwynydd ar y rhaglen newyddion leol "Day by Day". Pan gaeodd y BBC ei stiwdios Lime Grove yn 1991, cyflwynodd Michelmore y darllediad olaf o Lime Grove.[9]

Wedi gadael gwaith teledu llawn-amser, daeth Michelmore yn bennaeth ar adran fideo newydd EMI. Roedd yn gyflwynwr rheolaidd ar raglen deledu Holiday ar BBC 1rhwng 1969 a 1986, a chyflwynodd sioeau eraill ar gyfer teledu'r BBC, ITV a BBC Radio. Dychwelodd Michelmore i'r BBC ar 18 Tachwedd 2007 i gyflwyno rhaglen ar sianel BBC Parliament, yn adrodd hanes dibrisio'r bunt yn 1967. Roedd yn byw yn South Harting, Sussex. Bu farw yn Mawrth 2016.

Cyfeiriadau golygu

  1. Sharp, David. "Michelmore, Cliff (1919–)". BFI Screenonline. Cyrchwyd 17 March 2016.
  2. "Cliff Michelmore, television presenter - obituary". The Telegraph. 17 Mawrth 2016. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.
  3. "Jean Metcalfe: The Forces' Favourite". BBC News. 29 Ionawr 2000.
  4. "TV Commentary: Annual Awards". Glasgow Herald. 6 Rhagfyr 1958. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2011.[dolen marw]
  5. Production paperwork, The Radio Times and BBC Archive library all list the title in words, while the programme's logo used numerals.
  6. "Obituary: Cliff Michelmore". BBC News. BBC. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.
  7. "Our World: first ever live international TV production". European Broadcasting Union. 4 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 2016-03-17.
  8. "Legendary BBC presenter Cliff Michelmore who anchored British coverage of the Apollo moon landings and several general elections dies aged 96". Mail Online. Daily Mail. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.
  9. "Cliff Michelmore Death: Six Things You Might Not Know About the BBC Broadcaster". Newsweek. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.

Dolenni allanol golygu