Y Gelli Gandryll

tref ar lannau Afon Gŵy ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Gelli Gandryll)

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Gelli Gandryll[1] (hefyd Y Gelli) (Saesneg: Hay neu Hay-on-Wye). Saif ar lannau Afon Gwy, ar y ffin â Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr. Dros y ffin mae pentre Cusop yn Swydd Henffordd. Mae'r dref yn adnabyddus am ei siopau llyfrau ail-law niferus.

Y Gelli Gandryll
Mathtref farchnad, Book town Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,598 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTombouctou Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siry Gelli Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0758°N 3.1314°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO225425 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Ers 1988, mae Gŵyl Llenyddiaeth y Gelli Gandryll yn digwydd ym Mehefin bob blwyddyn.

Mae'r dref wedi gefeillio gyda Tombouctou ym Mali.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Un o nifer o siopau llyfrau'r dref

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Gelli Gandryll (pob oed) (1,598)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Gelli Gandryll) (139)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Gelli Gandryll) (561)
  
35.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Gelli Gandryll) (316)
  
38.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Hay twins with Africa's Timbuktu. BBC (7 Chwefror 2007). Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2012.
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2022-01-01.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.