Cliftonville F.C.
Mae Cliftonville Football and Athletau Club, a adwaenir yn well fel Cliftonville F.C., yn un o brif glybiau pêl-droed Gogledd Iwerddon ac wedi ei lleoli yn ninas Belfast. Fe'i sefydlwyd yn 1879, dyma'r clwb hynaf yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r sylfaen wedi'i chysylltu'n gryf ag entrepreneur ifanc o Belfast, John McAlery. Mae cefnogwyr y tîm yn dod o'r gymuned dosbarth gweithiol a Chatholig, genedlaetholaidd Belfast.
Enw llawn | Cliftonville Football & Athletic Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Reds | ||
Sefydlwyd | Medi 1879 | ||
Maes | Solitude (sy'n dal: 3,200) | ||
Cadeirydd | Gerard Lawlor | ||
Rheolwr | Paddy McLaughlin | ||
Cynghrair | NIFL Premiership | ||
2023-24 | 3. | ||
|
Hanes
golyguCyhoeddwyd sefydlu Cliftonville ar 20 Medi 1879 yng nghologn hysbysiadau ym mhapur yr Belfast News-Letter a'r Northern Whig, a alwodd i "gentlemen desirous of becoming members" of the "Cliftonville Association Football Club (Scottish Association Rules)" i gysylltu gyda J.M. McAlery, dyn busnes ifanc o Belfast a rheolwr yr "Irish Tweed House", Royal Avenue ac, yn ddiweddarach drwy eiddo yn Rosemary Street, neu drwy law RM Kennedy, a hysbysebodd "opening practice today at 3.30".[1][2]
Wedi dim ond wythnos wedi i'r hysbyseb gael ei chyhoeddi, chwaraeodd Cliftonville ei gêm gyntaf a recordiwyd ar Faes Criced Cliftonville yn erbyn detholiad o chwaraewyr rygbi o'r enw Quidnunces ar 29 Medi 1879 gan golli 2-1. Yn ei gêm gyntaf yn erbyn yr Scottish Caledonian Caledonian, roedd y sgôr yn waeth gan golli 1-9. [1]
Bu John McAlery yn brysur eto yn 1880 wrth iddo ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon. Rhoddodd wahoddiad i bartïon â diddordeb ym Melfast ac ardal i alw cyfarfod. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 18 Tachwedd 1880 yng Ngwesty'r Queen's, Belfast, dan arweiniad John Sinclair, a ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon. Tra penodwyd Major Chichester yn llywydd, daeth McAlery yn ysgrifennydd anrhydeddus y gymdeithas. Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cwpan Iwerddon.
Stadiwm
golyguMaes cartref Cliftonville yw stadiwm Solitude, sy'n dal torf o 3,700. Mae'r clwb wedi chwarae yno ers 1890. Mae'r clwb wedi wedi ennill 5 pencampwriaeth genedlaethol, 8 Cwpan Iwerddon a 4 Cwpan Cynghrair Gogledd Iwerddon.
Prif Wrthwynebwyr
golyguCliftonville yw tîm Catholig Belfast, mae gan ei gefnogwyr berthynas gystadleuol ffyrnig tuag at y ddau dîm a gefnogir gan y gymuned Brotestannaidd, Linfield a'r Glentoran. Gelwir eu cefnogwyr mwyaf pybur yn "Red Army". Yn ystod yr 1970au a'r yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, roedd trais rhwng cefnogwyr Cliftoville a chefnogwyr Glentoran yn gyffredin.
Ceir gemau darbi cliftonville yn erbyn tîm arall gogledd Belfast, sef Crusaders F.C. dyma'r "North Belfast Derby".
Ynghyd â Linfield a Glentoran, dydy Cliftonville erioed wedi cwympo i adrannu is.
Ar 27 Mehefin 2019 chwaraeodd Cliftonville yn erbyn y Barri.
Anrhydeddau
golygu- Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon (gan gynnwys yr hen "Irish League" oedd, tan yr 1920au yn cynnwys De Iwerddon: 5 (gan gynnwys un wedi ei rannu)
- 1905–06 (rhannu gyda Distillery), 1909–10, 1997–98, 2012–13, 2013–14
- Cwpan Iwerddon (oedd yn cynnwys holl dimau Iwerddon nes yr 1920 ac sy'n dal i arddel yr enw wreiddiol genedlaethol): 8
- 1882–83, 1887–88, 1896–97, 1899–00, 1900–01, 1906–07, 1908–09, 1978–79
- Cwpan Cynghrair Gogledd Iwerddon: 5
- 2003–04, 2012–13, 2013–14, 2014–15, 2015–16
Cliftonville yn Ewrop
golyguErs 1979 mae Cliftonville wedi chwarae mewn amrywiaeth o gystadlaethau Ewropeaidd:
- 1998/99, 2013/14, 2014/15
- 2010/11, 2011/12, 2012/13, 2016/17, 2018/19, 2019/20
- Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop /Europacup II
- 1979/80
- Cwpan UEFA (Cynghrair Europa UEFA presennol)
- 2008/09
- Cwpan Intertoto UEFA (sydd, ers 2008, wedi troi'n Cynghrair Europa UEFA)
- 1996, 2001, 2007