Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon

corff llwyodraethol peêl-droed Gogledd Iwerddon

Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon yr Irish Football Association neu'r talfyriad IFA yw corff rheoli a gweinyddu pêl-droed yng Ngogledd Iwerddon. Gan fod yr enw Saesneg yn creu dryswch gyda'r FAI (Football Association of Ireland) defnyddir y gair 'gogledd' yn enw Cymraeg ac y corff.

Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd18 Tachwedd 1880
Aelod cywllt o FIFA
  • 1911–1920
  • 1924–1928
  • 1946–present
Aelod cywllt o UEFA1954
Aelod cywllt o IFAB1886
LlywyddDavid Martin
Gwefanwww.irishfa.com

Gweler Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon am yr FAI, sy'n rheoli pêl-droed yn y Weriniaeth ('De Iwerddon').

Trefniadaeth golygu

Yr IFA sy'n gyfrifol am Gynghrair Bêl-droed Gogledd Iwerddon - yr 'Irish League' sy'n cynnwys uwch-dimau'r rhanbarth, er bod Derry City yn chwarae yn y Weriniaeth.

Mae'r Gymdeithas hefyd yn rhedeg Cwpan Iwerddon, sef yr Irish Cup gwreiddiol, er mai ond timau o'r Gogledd sy'n cystadlu bellach. Cynhaliwyd y ffeinal gyntaf yn 1882 a'r enillwyd oedd Moyola Park o sir Derry a gurodd Cliftonville o Belffast, 1-0.

Ceir hefyd tîm merched, y 'NIWFA'. Maent yn gyfrifol am Gwpan Menywod GI, Cynghrair Menywod GI a thîm genedlaethol menywod GI. Yn 2014 bygythiwyd torri eu grant gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon pe na bae Cymdeithas Bêl-droed yn ganolog yn peidio trin pêl-droed menywod fel "after thought".[1]

Hanes golygu

 
Bathodyn wreiddol yr IFA

Yr FAI yw pedwerydd cymdeithas bêl-droed hynaf y byd (wedi Lloegr, yr Alban a Cymru).

Ffurfiwyd yr IFA ar 18 Tachwedd 1880 gan saith clwb, gan mwyaf o ardal Belffast ond gyda'r gorchwyl o fod yn gorff rheoli i'r gêm ar draws Iwerddon. Galwyd y cyfarfod gan dîm Cliftonville ar i'r timau eraill ddilyn rheolau'r gêm fel y gosodwyd gan Gymdeithas Bêl-droed yr Alban. Rhaid cofio mai dyma oedd dyddiau cynnar iawn datblygiad a rheoleiddio'r gêm bêl-droed bod peth amrywiaethau ar hyd Prydain o ran rheolau. Dylid cofio hefyd fod y Campau Gwyddelig, megis Hurling a phêl-droed Gwyddelig yn ennill tir ymysg poblogaeth genedlaetholaidd, Gatholig ar draws yr ynys a sefydlwyd y GAA yn 1882. Yn 1879 unwyd dau gymdeithas rygbi ar yr ynys i greu Undeb Rygbi Iwerddon.

Yr aelodau cychwynnol oedd: Alexander, Avoniel, Cliftonville, Distillery, Knock, Moyola Park ac Oldpark.[2] Penderfyniad gyntaf y Gymdeithas oedd sefydlu cystadleuaeth gwpan debyg i Gwpan Cymru, yr Alban neu Loegr. Galwyd y gystadleuaeth yn 'Gwpan Iwerddon' (yr Irish Cup). Dwy flynedd yn ddiweddarach, chwaraeodd Iwerddon eu gêm ryngwladol gyntaf a hynny yn erbyn Lloegr gan golli 13-0. Mae hon yn sefyll fel record i'r naill dîm a'r llall - buddugoliaeth fwyaf Lloegr a methiant fwyaf (Gogledd) Iwerddon.

Ystyrir yr FAI, cymdeithas Gogledd Iwerddon, fel dilyniant uniongyrchol Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon unedig, gyda'r Weriniaeth yn ymraniad oddi arni.

Ymrannu golygu

 
Arwyddlun yr IFA ar gatiau i'w pencadlys

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon unedig o'r cychwyn yn cynnwys strwythurau wedi eu seilio ar daleithiau traddodiadol Iwerddon. Teimlau aelodau Cymdeithas Bêl-droed Leinster (talaith Dulyn a siroedd cyfagos) bod gogwydd rhy drwm tuag at ardal Belffast a diffyg buddsoddi yn y gêm mewn rhannau eraill o'r ynys.

Arweiniodd y Rhyfel Annibyniaeth at densiwn o fewn y Gymdeithas holl-ynys, gyda'r mynychwyr o'r gogledd yn dueddol o fod yn Unoliaethwyr ac o'r de yn genedlaetholwyr. Yn y pen-draw, arweinodd penderfyniad yr IFA i chwarae ail-gymal gêm ffeinal Cwpan Iwerddon (unedig ar y pryd) rhwng tîm gogleddol Glenavon yn erbyn Shelbourne (Dulyn) yn Belffast yn hytrach na Dulyn, fel y buasai confensiwn wedi awgrymu, fel y weithred olaf a arweiniodd at y rhwyg.[3]

Ni arweiniodd y rhwyg o fewn y gymdeithas bêl-droed IFA i'r un rhwyg mewn gemau eraill fel rygbi lle ceir un tîm o hyd i'r holl ynys a chadwyd undod Undeb Rygbi Iwerddon.

I gwychwyn, hawliau'r ddwy gymdeithas, yr FAI (de) a'r IFA (gogledd) eu bod yn cynrychioli'r holl ynys. Bu ymgpiprys am hyn am beth amser.

Derbyniwyd yr IFA fel aelod o FIFA yn 1923 o dan yr enw FAIFS (Football Association of the Irish Free State) yn seiliedig ar diriogaeth 26 sir y Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (y 'Free State'). Dyma'r drefn a dderbyniwyd, er bod dinas Derry yn chwarae yn y De ers 1985 yn dilyn cytundeb gyda FIFA a'r IFA.

Ceisiwyr ail-uno'r ddwy gymdeithas. Trefnodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr gyfarfod yn Lerpwl yn 1924 i geisio cymodi. Bu bron i'r ddwy ochr ddod at drefniadaeth ffederal ond mynodd yr IFA (gogledd) ar fod yn gyfrifol am y cadeirydd ar bwyllgor dewis y tîm ryngwladol. Cafwyd cyfarfod arall yn 1932 ond methodd hon yn dilyn yr FAIFS (Gweriniaeth Rydd, De) ar un o'r ddau le fel cynrychiolwyr ar Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (International Football Association Board) - dyma'r corff holl-bwysig sy'n gyfrifol am reolau'r gêm yn fyd-eang, er mai cynrychiolwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban a FIFA yw'r aelodau.[4] Cafwyd hefyd ymdrechion eraill rhwng 1973 a 1980 yn ystod blynyddoedd gwaethaf y 'Trafferthion' yng ngogledd Iwerddon.[5]

Crynodeb Hanesyddol golygu

 
Tîm Iwerddon unedig yn 1914
1880 – Sefydlu'r IFA yn Belfast, cynrychioli Iwerddon oll, tîm ("Iwerddon")
1921 – Sefydlu'r FAI yn Nulyn, dewis chwaraewyr o Dde Iwerddon ("Gwladwriaeth Rydd Iwerddon")
1936 – Yr FAI yn dechrau dewid chwaraeon o'r Gogledd ("Iwerddon"/"Éire")
1946 – Yr FAI yn stopio dewis chwaraewyr o Ogledd Iwerddon ("Gweriniaeth Iwerddon" ers 1954)
1950 – Yr IFA yn stopio dewis chwaraewyr o'r De ("Gogledd Iwerddon" ers 1954)

Felly,

IFA (heddiw Gogledd Iwerddon) cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1880–1950
FAI (heddiw Gweriniaeth Iwerddon) yn cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1936–1946

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Irish Football Association must give girls equal status or I'll cut cash: Sports Minister Caral Ni Chuilin". Belfast Telegraph. 9 April 2014. Cyrchwyd 12 Mai 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. M. Brodie (1980) 100 Years of Irish Football. Belfast:Blackstaff Press
  3. Garnham, Neal (2004). Association Football and society in pre-partition Ireland. Belfast: Ulster Historical Foundation. ISBN 1-903688-34-5. Chapter 6: "The game 1914-24: decline and division"
  4. Ryan, Sean (1997). The Boys in Green: the FAI international story. Edinburgh: Mainstream Publishing. ISBN 1-85158-939-2. pp. 23-5
  5. Moore, Cormac (2015). The Irish Soccer Split. Cork University Press. ISBN 9781782051527. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)