Grŵp synthpop sy'n canu yn y Gymraeg yw Clinigol, a ffurfiwyd gan dau frawd o Bontypridd, Aled a Geraint Pickard, yng Nghaerdydd, 2002. Un o nodweddion eraill y band yw'r modd y maent yn cydweithio gyda artistiaid eraill, gan gynnwys Caryl Parry Jones, Elin Fflur, Heather Jones, Margaret Williams, Siwan Morris, Amy Wadge, Cofi Bach, Nia Medi ac El Parisa. Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf Melys ar 25 Mai 2009. Rhyddhawyd eu hail albwm Discopolis, ar 6 Chwefror 2012. Dyma'r albwm ddwbl gyntaf o gynnyrch gwreiddiol gan un artist yn y Gymraeg.[angen ffynhonnell]

Clinigol
Math o gyfrwngband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwefanhttp://www.clinigol.com/ Edit this on Wikidata

Mae'r brodyr Pickard, Aled a Geraint, yn dod o Bontypridd yn wreiddiol ond nawr yn byw yng Nghaerdydd. Roedd Aled yn gweithio fel DJ mewn clybiau nos yn Llundain pan benderfynodd symud yn ôl i Gaerdydd i ffurfio Clinigol, er mwyn cynhyrchu cerddoriaeth pop/dawns/electronig Gymraeg.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y band Eiliad ar label Ciwdod yn 2006. Yna, rhyddhawyd y senglau Y Gwir a Hufen Iâ cyn rhyddhau albwm gynta'r band Melys ar label Rasp yn 2009.

Daeth yr EP Swigod â'r band i sylw'r wefan pop boblogaidd a dylanwadol, "popjustice" yn 2010 a ddisgrifiodd y sain fel "Big Pop Music!"[1] . Rhyddhaodd y band ei ail albwm llwyddiannus, Discopolis yn 2012.

Disgograffi

golygu

Albymau

golygu

Senglau

golygu
  • "Eiliad" - 18 Rhagfyr 2006
  • "Y Gwir" - Hydref 2007
  • "Hufen Iâ" - 25 Ionawr 2009
  • "Swigod" EP - 18 Ionawr 2010
  • "Cyfrinach" - 25 Hydref 2010
  • "Gwna Beth Sydd Rhaid" - Medi 2011
  • "Ymlaen" - 18 Awst 2013
  • "I Lygaid Yr Haul" - 23 Medi 2015

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Chwiliwch am Clinigol
yn Wiciadur.