Clwb Awen a Chân
Cymdeithas lenyddol a diwylliannol oedd Clwb Awen a Chân, gyda'r amcan o hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg, yn enwedig i bobl ieuanc.
Enghraifft o: | literary society |
---|
Sefydlwyd y Clwb yng Nghaernarfon yn 1908, diolch yn bennaf i ymdrechion ac ymroddiad y llenor a newyddiadurwr Robert David Rowland (Anthropos). Am gyfnod bu'n sefydliad dylanwadol yng ngogledd Cymru gan gyrraedd aelodaeth o dros 400 ar ei anterth.[1]
Yn ogystal i Anthropos ei hun, roedd y sylfaenwyr yn cynnwys y bardd (ifanc ar y pryd) T. Gwynn Jones, y nofelydd a newyddiadurwr E. Morgan Humphreys (awdur Dirgelwch Gallt y Ffrwd) a'r llenor Owain Llywelyn Owain ('O. Llew Owain').[1]
Daeth y Clwb i ben yn 1932.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- O. Llew Owain, Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946)