Robert David Rowland (Anthropos)

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, a llenor

Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor oedd Robert David Rowland (Anthropos) (1853? – 21 Tachwedd 1944).[1]

Robert David Rowland
FfugenwAnthropos Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd tua 1853; nid oes sicrwydd yngylch y dyddiad na'r lle. Fe'i mabwysiadwyd gan Robert a Beti Rowland, a oedd yn byw ym mhentref Tyn-y-cefn, yn agos i Gorwen. Fe'i prentisiwyd yn deiliwr. Dechreuodd bregethu yn 1873 ac yn 1874 aeth i goleg y Bala. Bu'n athro ysgol yno am gyfnod, a chyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Y Blodeuglwm, yn 1877. O'r Bala aeth i Gaernarfon, gan ymuno â staff Yr Herald Cymraeg ac wedyn Y Genedl Gymreig; daeth yn olygydd yr olaf o 1881 hyd 1884. Bu hefyd yn cynorthwyo Evan Jones gyda'r Amseroedd. Wedi ei ordeinio yn 1887 daeth yn weinidog yng Nghaernarfon, lle y bu hyd 1933. Yn 1912 dilynodd Thomas Levi fel golygydd Trysorfa'r Plant.

Roedd yn adnabyddus ledled Cymru fel llenor a bardd. Cyhoeddodd dros 20 o lyfrau. Ysgrifennodd lawer iawn i'r wasg, gan gynnwys Y Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig, Y Faner, Y Goleuad, Y Traethodydd, Y Geninen, a'r Dinesydd Cymreig.

Gweithiau golygu

  • Y Blodeuglwm (Y Bala, 1878)
  • Gwroniaid y Ffydd a Brwydrau Rhyddid (Caernarfon, 1897)
  • Oriau yn y Wlad: neu, Gydymaith Gwyliau Haf (Caernarfon, 1898)
  • Y Frenhines Victoria : Ei Hanes, ei Nodweddion, ei Dylanwad (Caernarfon, 1901)
  • Awel a Heulwen (Caernarfon, 1901)
  • Gwlad yr Iesu (Caernarfon, 1903)
  • Oriau gygag Enwogion (Wrecsam, 1903)
  • Y Faner Wen: Ystori Arbenig i Blant y 'Band of Hope'” (Caernarfon, 1903)
  • Y Porth Prydferth (Wrecsam, 1904)
  • Telyn Bywyd (Caernarfon, 1904)
  • Tŷ Capel y Cwm (Wrecsam, 1905)
  • Perlau'r Diwygiad (Caernarfon, 1906)
  • Oriau Hamdden: Yng Nghwmni Awduron a Llyfrau (Wrecsam, 1907)
  • Y Ffenestri Aur: Oriau yn Nghwmni Natur, Awduron, a Llyfrau (Dinbych, 1907)
  • Cadeiriau Enwog (Caernarfon, 1908)
  • Camrau Llwyddiant: Trem ar Fywyd Dewi Arfon (Wrecsam, 1909)
  • Jim: Yr Arlunydd Bach (Caernarfon, 1909)
  • Y Golud Gwell: Adlais o'r Dyddiau Gynt (Wrecsam, 1910)
  • Merch y Telynor: Rhamant Gymreig (Wrecsam, 1911)
  • Bugail y Cwm (Wrecsam, 1913)
  • Y Pentre Gwyn: Ystori Bore Bywyd (Wrecsam, 1915)
  • Stryd Ni: Stori Newydd i'r Plant (Caernarfon, 1920)
  • Un o Blant y Wlad: Stori i'r Plant (Caernarfon, 1921)

Cyfeiriadau golygu