Cochwillan

adeilad rhestredig Gradd I yn Llanllechid

Plasdy Cymreig hynafol sy'n gorwedd yn rhan isaf Dyffryn Ogwen, Gwynedd, yw Cochwillan (amrywiad: Cwchwillan). Fe'i lleolir i'r de o bentref Talybont ym mhlwyf Llanllechid, rhwng Bethesda a Llandygái.

Cochwillan
Mathneuadd-dy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanllechid Edit this on Wikidata
SirLlanllechid Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr85.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2035°N 4.0871°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Diweddar yw'r ffurf arferol ar yr enw, 'Cochwillan'. 'Cwchwillan' yw'r ffurf hynafol, gyda cwch yn golygu cwch gwenyn, yn ôl pob tebyg. Mae ystyr yr ail elfen, [g]willan, yn ansicr.

 
Hen blasdy canoloesol Cochwillan
 
Melin Cochwillan

Bu plasdy ar y safle, ar lan ddwyreiniol Afon Ogwen, ers y 15g o leiaf. Credir i'r plasdy cyntaf gael ei adeiladu gan uchelwr lleol a gymerodd ran yn ymgyrch Harri Tudur ac a ymladdodd ar Faes Bosworth (Awst, 1485).[1]

Daeth y plasdy yn gyrchfan i rai o feirdd amlycaf y cyfnod, yn cynnwys Lewys Môn sy'n rhyfeddu ar ei ffenestri gwydr hardd (peth prin iawn yr adeg yna), "A'i godre mewn gwydr a mêl."[2] Ond y bardd mwyaf adnabyddus a gai groeso gan y teulu ar yr aelwyd oedd Guto'r Glyn, yn ei henaint. Un o'r pethau sy'n tynnu ei sylw oedd y ffaith fod glo yn cael ei losgi yno (peth anghyffredin am y cyfnod ac arwydd o foethuswrydd):

Gwely Aras, goleurym,
A siambr deg sy'n barod ym.
Mae yno i ddyn mwyn a ddêl
Fwrdd a chwpwrdd a chapel,
A gwych allor Gwchwillan,
Ac aelwyd teg i gael tân.
Y mae deuwres i'm diro,
Ei goed o'r glyn gyda'r glo.[3]

Bu Cochwillan ym meddiant John Williams, Archesgob Efrog, yn nheyrnasiad Siarl I o Loegr.[4]

Ceir Melin Cochwillan ar lan Afon Ogwen gerllaw. Fe'i hadeiladwyd tua 200 mlynedd yn ôl. Pandy oedd hi ar y cychwyn. Yn nes ymlaen cafodd ei haddasu i felino grawn megis ceirch a haidd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (Llandybie, 1959), tud. 29.
  2. Dyfynnir gan Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 47.
  3. Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650, tud. 48.
  4. Crwydro Arfon, tud. 29.