John Williams, Archesgob Efrog
Clerigwr Cymreig a ddaeth yn Archesgob Efrog ac Arglwydd Ganghellor oedd John Williams (25 Mawrth 1582 – 25 Mawrth 1650).[1]
John Williams, Archesgob Efrog | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 22 Mawrth 1582, 22 Mawrth 1582, 25 Mawrth 1582 ![]() Conwy ![]() |
Bu farw | 25 Mawrth 1650 ![]() o Quinsy ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, barnwr, diwinydd, gwleidydd, archesgob ![]() |
Swydd | Archesgob Efrog, Esgob Lincoln, esgob ![]() |
Tad | Edmund Williams ![]() |
Mam | Mary Wynn ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed John Williams, neu Siôn Iorc, ym Mhlas Isaf, Llansanffraid Glan Conwy,[2] yn fab i Edmund a Mary Williams. Perthynai i deulu uchelwrol; roedd ei dad yn perthyn i deuluoedd Cochwillan a'r Penrhyn a'i fam i Wyniaid Gwydir. Aeth i ysgol ramadeg Rhuthun yna yn 1598 i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt.
Yn 1611 rhoddodd bregeth gyda'r brenin Iago I/VI yn bresennol, a gwnaeth gryn argraff arno. Yn 1612 aeth yn gaplan i'r arglwydd-ganghellor Ellesmere, ac yn 1620 daeth yn ddeon San Steffan. Y flwyddyn wedyn apwyntiwyd ef yn esgob Lincoln, ac yn fuan wedyn daeth yn Arglwydd Ganghellor.
Roedd John Williams yn uchel yn ffafr y brenin Iago, ond nid oedd ei berthynas gyda'i fab, Siarl I cystal. Diswyddwyd ef fel Arglwydd Ganghellor yn 1625. Roedd ffefrynnau Siarl, Buckingham a Laud, yn elynion iddo, ac yn 1637 taflwyd ef i garchar, lle bu hyd 1640. Y flwyddyn honno, rhyddhawyd ef a daeth yn gynghorydd i Siarl, ac yn 1641 daeth yn Archesgob Efrog.
Dychwelodd i ogledd Cymru yn 1642, a threfnodd i atgyweirio Castell Conwy ar ei gost ei hun a'i amddiffyn dros blaid y Brenin. Gwaethygodd ei berthynas gyda phlaid y Brenhinwyr, fodd bynnag, ac ym Mai 1645 cafodd ei droi allan o'r castell Syr John Owen, Clenennau. Trodd Williams i gefnogi'r Senedd, a chynorthwyodd y Seneddwyr i ymosod ar Gonwy yn Awst 1646.
Bu farw yn 1650 yn y Gloddaeth, cartref teulu Mostyn, a chladdwyd ef yn eglwys Llandygai.
John Williams; darlun allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Archaeologia Cambrensis: The Journal of the Cambrian Archaeological Association (yn Saesneg). W. Pickering. 1921. t. 293.
- ↑ Coflein - Plas Isaf adalwyd 25 Chwefror, 2019