Agor y brif ddewislen

Bardd o Ynys Môn a ganai yng ngogledd Cymru ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527). Fe'i ystyrir yn un o feirdd gorau ei gyfnod.[1]

Cynnwys

BywydGolygu

Brodor o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw, oedd y bardd. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu ei fod yn of yn ogystal â bardd proffesiynol. Ni wyddom pryd cafodd ei eni a phrin yw ein gwybodaeth amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Yn ôl rhestr o fannau claddu'r beirdd yn y llawysgrifau ac ewyllys dyddiedig 1527 sydd, mae'n ymddangos, yn ddogfen ddilys, claddwyd Lewys (neu Lodowidus Mon) yn Abaty Glynegwestl yn 1527.[2]

CerddiGolygu

 
Adfail yw Bodychen heddiw, fu'n gartref rhai o noddwyr y bardd yn yr 16eg ganrif.

Cafodd y bardd yrfa hir. Ceir dros 110 o gerddi y gellir eu derbyn yn hyderus fel gwaith dilys y bardd. Canodd gerddi mawl i nifer o bobl amlwg yng nghymdeithas Gogledd Cymru o amser buddugoliaeth Harri Tudur ar Faes Bosworth yn 1485 ymlaen. Roedd ei brif noddwyr yn cynnwys teulu Griffith o Benrhyn a theuluoedd uchelwrol Presaddfed, Y Chwaen Wen, Bodeon, a Bodychen, ond canodd i noddwyr yn Ne Cymru hefyd, yn enwedig teulu pwerus Stradling.

Un agwedd ar ei ganu yw'r cyfeiriadau aml at ffigurau o'r Mabinogi ynddo. Ceir un o'r ychydig gyfeiriadau at Arianrhod yng ngwaith y beirdd mewn cerdd ganddo i wraig anhysbys a chyfeiriad at Gaer Arianrhod mewn marwnad i Elin Bwclai o Fôn. Yn ôl Lewys, oedd yn hyddysg yn yr hen chwedlau, Arianrhod ac nid Goewin oedd y forwyn a ddaliai draed Math yn ei harffed, sy'n awgrymu fod y bardd yn gyfarwydd â fersiwn amgen o chwedl Math fab Mathonwy sydd ar goll bellach:

Mae 'nghwyn am forwyn yn fwy
no Math Hen fab Mathonwy.
Braich un ddi-wair, brechwen, ddoeth,
fu'i obennydd ef beunoeth:
Arianrhod,—ni bu'r unrhyw—
ni byddai Fath hebddi fyw.[3]

Cyfansoddodd dair marwnad i'r beirdd Tudur Aled, Dafydd ab Edmwnd a Rhys Nanmor. Canodd Dafydd Alaw farwnad i Lewys ei hun.

LlyfryddiaethGolygu

  • Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1975). Y golygiad safonol o waith y bardd, gyda rhagymadrodd a nodiadau.

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwaith Lewys Môn, tud. vi.
  2. Gwaith Lewys Môn, tud. xi.
  3. Gwaith Lewys Môn, cerdd XCVII, llau. 1-6.