Codi Stêm (panto)
"Sioe Nadolig i'r teulu" a lwyfannwyd gan Hwyl a Fflag ym 1987 yw Codi Stêm. Cyfansoddwyd y sioe gan Gruffudd Jones a Gwen Ellis a'r gerddoriaeth gan Geraint Cynan. Wyn Bowen Harris oedd y cyfarwyddwr. Dyma'r ail sioe neu bantomeim i Hwyl a Fflag lwyfannu yn sgil methiant Cwmni Theatr Cymru ym 1984.[1]
Dyddiad cynharaf | 1987 |
---|---|
Awdur | Gruffudd Jones a Gwen Ellis |
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Hwyl a Fflag |
Pwnc | pantomeim |
Genre | Pantomeim Cymraeg |
Cyfarwyddwr | Wyn Bowen Harris |
Cyfansoddwr | Geraint Cynan |
Cefndir
golygu"Dyma sioe nadolig newydd sbon sydd yn symud fel Roced!", ebe taflen hysbysebu'r sioe, "Felly neidiwch ar fwrdd eich trên stêm ac ymunwch yn yr antur i ddod o hyd i'r iâr fawr felyn. Mae hi gymaint o angen eich cymorth ag yr oedd Jim Cro Crystyn y llynedd".[1]
Cymeriadau
golyguCynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y sioe gan Hwyl a Fflag yn ystod y Gaeaf 1987 a Gwanwyn 1988; cyfarwyddwr Wyn Bowen Harris; cast: Sera Cracroft, Dylan Davies, Morfudd Hughes, Siân James, Maldwyn John, Tom Richmond a Danny Grehan.