Jim Cro Crystyn (pantomeim)

Pantomeim gan Cefin Roberts a Geraint Cynan a chwmni theatr Hwyl a Fflag yw Jim Cro Crystyn. Cyflwynwyd y pantomeim dros gyfnod y Gaeaf 1986 / 1987. Storïau am gymeriadau o'r hwiangerddi sydd yn y sioe, gan gynnwys Jim Cro Crystyn o'r hwiangerdd Dacw Mam Yn Dŵad. Crëwyd hwiangerddi ffug i gyd-fynd â plot y panto.

Jim Cro Crystyn
Dyddiad cynharaf1986
AwdurCefin Roberts
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaHwyl a Fflag
Pwncpantomeim
GenrePantomeim Cymraeg
CyfansoddwrGeraint Cynan

Disgrifiad byr

golygu

"Dacw mam yn dŵad ar ben y gamfa wen / rhywbeth yn ei ffedog a phiser ar ei phen; / Y fuwch yn y beudy yn brefu am y llo,/ a'r llo'r ochr arall yn chwarae Jim Cro. [Cytgan] Jim Cro Crystyn / Wan, tŵ, ffôr, / a'r mochyn bach yn eistedd / mor ddel ar y stôl."[1]

"Oherwydd rhesymau dirgel, mae Jim yn cael ei orfodi i adael ei fam a'i fywyd syml a diboen yn nhudalennau'r llyfr hwiangerddi, a rhaid iddo fentro allan i oerni, ansicrwydd a helyntion y byd mawr real. Mae'n rhannu ei anturiaethau a'i gyfeillion newydd, a'i arch elyn yw W. B. Treharne, miliwnydd a chyfalafwr, sydd â chynlluniau erchyll ar gyfer ein arwr. (Gyda llaw, cawn wybod o'r diwedd beth union sydd gan mam Jim Cro Crystyn yn ei ffedog!)."[2]

Cefndir

golygu

Dyma'r ail bantomeim i gwmni theatr Hwyl a Fflag ei greu a'i gyflwyno, yn sgil diwedd Cwmni Theatr Cymru ym 1984. Go Fflamia! oedd y cyntaf ym 1985/1986. Cyn hynny, sefydlwyd cwmni annibynnol o'r enw Panto 85, er mwyn cyflwyno'r panto Rwj Raj ym 1984/85, cyn i Gyngor Celfyddydau Cymru rhoi'r nawdd i Hwyl a Fflag.[3]

Ystyr diniwed yr hwiangerdd draddodiadol oedd cefndir y panto, a dim i'w wneud â'r cymeriad dadleuol 'Jim Crow' yn hanes cythryblus apartheid yn yr Unol Daleithiau. Crëwyd hwiangerddi ffug i gyd fynd â'r sioe.

 
Tudalen o raglen y pantomeim Jim Cro Crystyn 1986

Cymeriadau

golygu
  • Jim Cro Crystyn
  • Ei Fam
  • Carys
  • W.B. Treharne
  • Miss Phyllis Prydderch
  • Mrs. Dilys Treharne
  • Selwyn Slebog

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y pantomeim gan Hwyl a Fflag yn Rhagfyr 1986; cyfarwyddydd Gwen Ellis; cerddoriaeth Geraint Cynan; cerddorion Geraint Cynan, Richard Eldrige a Ray Jones; cynllunydd Martin Morley; goleuo Peter Zygadlo; coreograffydd Cefin Roberts; cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Hwiangerddi.cymru". welshnurseryrhymes.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
  2. "Helyntion Mawr Y Byd I Boeni Jim Cro Crystyn". Herald Gymraeg. 29 Tachwedd 1986.
  3. "Emyr and Elwyn's Story: Ep 06". Emyr and Elwyn's Story: Ep 06 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.