Morfudd Hughes

Actores a chyfarwyddydd theatr o Gymru

Actores a chyfarwyddydd theatr o Gymru yw Morfudd Hughes (ganwyd 28 Mai 1961). Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au. Bu'n portreadu cymeriadau amlwg mewn cyfresi poblogaidd S4C fel Pengelli a Rownd a Rownd. Portreadodd y prif gymeriadau yn y ffilmiau Fel Dail ar Bren (1986), Yma i Aros (1989), Sigaret? (1991) a Branwen (1994). Sefydlodd gwmni Theatr y Dyfodol gyda'r actor Wynford Ellis Owen yn dilyn astudio cwrs cyfarwyddo gyda Sam Kogan yn Llundain.

Morfudd Hughes
Ganwyd28 Mai 1961 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn ferch i John a Jean. Mae un brawd ganddi, John Arwel. Mynychodd yr ysgol Gynradd yn Llainfairpwll ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd a'r The School for the Science of Acting yn Llundain.[1]

Bu'n actio mewn cyfresi drama a ffilmiau ar S4C ers 1983. Cafodd ei henwebu am wobr BAFTA Cymru yn 1996, am ei pherfformiad yn Branwen.[2]

Mae ganddi un mab, Llion.

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu
 
Morfudd Hughes yn Branwen 1995
 
Morfudd Hughes yn Sigaret? 1991

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Morfudd Hughes". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-22.
  2. "Cymru in 1996" (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Medi 2024.