Actor o Gymro o'r Rhondda yw Danny Grehan (ganwyd Tachwedd 1965). Bu'n portreadu llu o gymeriadau ar lwyfannau a theledu Cymru ers y 1980au. Mae'n gynghorydd Sir yn Nhonyrefail ar ran Plaid Cymru.

Danny Grehan
GanwydTachwedd 1965
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. [1]

Bu'n byw yn Nhonyrefail ers y 1980au gyda'i wraig Helen Prosser a'r teulu, sy'n cynnwys ei fab y Prifardd Gwynfor Dafydd. Yn ogystal â'i waith fel actor, bu hefyd yn gweithio i Leanne Wood yn y Rhondda.[2]

Theatr

golygu

Teledu a Ffilm

golygu
  • Rain - Tornado Films
  • Cymer Dy Siar - Gaucho
  • Yr Alltud - Bryngwyn
  • Milwr Bychan - Cine Cymru
  • Alys - Apollo
  • Pobol y Cwm - BBC
  • Teulu - Boomerang
  • Y Pris - Fiction Factory
  • Casualty - BBC
  • Cowbois ac Injans - Opus
  • Pentre Bach (2 & 3) - Sianco
  • Belonging - BBC
  • A470 - ITV
  • Jara - HTV
  • The Bench - BBC
  • Iechyd Da (2,3,4) - Bracan
  • Y Meicrosgôp Hud - Elidir
  • Perthyn - Bracan
  • Wyneb yn Wyneb - Bracan
  • Fi Sy’n Magu’r Babi - Bracan
  • Pobol Y Cwm - BBC
  • Cwlwm Serch - Llifon
  • Môrladron - Psycho. News
  • Dim Cliw - Telesgôp
  • Mae Gen i Achos - Map
  • Glan Hafren - HTV
  • Mwy na Phapur Newydd - Lluniau Lliw
  • Tu Hwnt i’r Lloer - Grasshopper Productions                 

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "CV". dannygrehan. Cyrchwyd 2024-09-11.
  2. January 25 2017, Postiwyd ar; Yh, 5:35. "Dewisiwch Danny fel eich cynghorydd nesaf". Plaid Cymru Pontypridd. Cyrchwyd 2024-09-11.CS1 maint: numeric names: authors list (link)