Actor a dramodydd o Gymro yw Wyn Bowen Harris (ganwyd 1952). Mynychodd Ysgol Glan Clwyd a gyd-sefydlwyd gan ei dad, Leslie Harris.[1] Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth mewn bio-cemeg cyn dilyn cwrs actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfan a theledu yng Nghymru ers y 1970au. Yn gyn aelod o Gwmni Theatr Cymru, Theatr Bara Caws, Cwmni Theatr Gwynedd, Cwmni Theatr Hwyl A Fflag a Clwyd Theatr Cymru, sefydlodd Gwmni [theatr] Pendraw yn 2016. Mae'n fwy adnabyddus am bortreadu'r cymeriad Charlie Gurkha yng nghyfres ddrama S4C, Tipyn O Stad a'i ddilyniant Stad.

Wyn Bowen Harris
FfugenwWyn Bow
Ganwyd1952
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Aberystwyth a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Galwedigaethactor a dramodydd

Bywyd personol

golygu

Mae'n briod â'r actores Gwen Ellis ac mae ganddynt un mab Rhys. Ei rieni oedd Leslie Harris ac Enid Bowen. Brawd ei daid o ochor ei fam oedd y bardd Ben Bowen.[2] Mae'n frawd-yng-nghyfraith i'r ysgolhaig D. Densil Morgan.[2]

Bu'n gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanllechid[3] a bu'n westai ar raglen Beti A'i Phobol i BBC Radio Cymru yn 2017.[2]

Teledu a Ffilm

golygu

Theatr

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wyn Bowen Harries". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-05.
  2. 2.0 2.1 2.2 "BBC Radio Cymru - Beti a'i Phobol, Wyn Bowen Harries". BBC. Cyrchwyd 2024-09-05.
  3. "Gwefan Cyngor Cymuned Llanllechid" (PDF).