Coed y Bont

Coedwig ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion

Mae Coed y Bont yn goetir cymunedol wedi’i leoli ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid, Ceredigion. Mae’n cynnwys dwy goedwig gyffiniol, Coed Dolgoed a Choed Cnwch.

Coed y Bont
Mathcoedwig, dark-sky preserve Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPontrhydfendigaid Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.277306°N 3.851405°W Edit this on Wikidata
Cod OS737 659 Edit this on Wikidata
Map
  • Coed Cnwch - coetir hynafol wedi’i leoli ar y llethr cyfagos, yn cynnwys hen goed derw ac ardaloedd o goed cyll a rhai coed conwydd. Mae Coed Cnwch i'r de o Goed Dolgoed.[1]

Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i ymwelwyr yng Nghoed y Bont, gan gynnwys dau lwybr cerdded trwy Goed Dolgoed sy’n wastad.[2]

Bu'r goedwig yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.[3]

Lleoliad golygu

 
Adfail 'Blaen Fflur' ger Ystrad Fflur (1990)

Mae Coetir Cymunedol Coed y Bont B4343 o rhyw 6 milltir o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid heb fod yn bell o Abaty Ystrad Fflur.

Hanes golygu

Roedd coetiroedd Coed y Bont unwaith o fewn tiroedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, un o’r abatai mwyaf ym Mhrydain.

Mae Coed y Bont ar Lwybr Ystrad Fflur ac mae byrddau gwybodaeth am hanes yr abaty yn y maes parcio. Mae adfeilion yr Abaty gerllaw, ac maent ar agor i’r cyhoedd.

Mae peth darnau o larwydd a ffynidwydden Douglas yn parhau i fod ar y safle ers i’r Comisiwn Coedwigaeth eu plannu yn y 1970au. Bydd y coed conwydd yn cael eu gwaredu’n raddol, fel rhan o raglen i adfer coetir hynafol.

Sefydlwyd Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont yn helpu i ofalu am y coetiroedd, mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, o fewn termau’r cytundeb rheoli.[2]

Hamdden golygu

 
Prif fforddd drwy bentref Pontrhydfendigaid (2012)

Llwybrau cerdded golygu

Mae dau lwybr coed wedi’u creu’n bwrpasol yng nghoetir is a gwastad Coed Dolgoed.

  • Llwybr Coed Aethnen - Gradd: Hawdd, pellter: ¼ milltir/0.4km.
  • Llwybr Coed Bedw - Gradd: Hawdd, pellter: ½ milltir/0.9km. Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r man cychwyn ar hyd ffordd y goedwig o ble ceir golygfeydd o Pen y Bannau, bryn trawiadol tua’r gogledd.
  • Llwybr Coetir Cnwch Coch - ceir rhwydwaith o lwybrau mwy garw a mwy serth trwy goetir hynafol Coed Cnwch, sydd wedi’i leoli ar lethr y bryn.

Safle Darganfod Awyr Dywyll golygu

Mae Coed y Bont wedi’i leoli ym Mynyddoedd Elenydd, lle mae’r awyr dros nos ymhlith y rhai mwyaf tywyll yn Ewrop.

Coed y Bont yw un o’r lleoedd gorau yn lleol i weld y sêr ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Darganfod Awyr Dywyll.

Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll: i ffwrdd o’r gwaethaf o unrhyw lygredd golau lleol; yn fannau lle gellir gweld yr awyr yn glir; yn hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys daear gadarn i gadeiriau olwyn, ac yn gyffredinol gellir mynd atynt drwy’r amser.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Coed y Bont". Gwefan Cymdeithas Coedwig Cymuned Pontrhydfendigaid. Cyrchwyd 9 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 "Coed y Bont, ger Tregaron". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 9 Mai 2023.
  3. "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.

Dolenni allanol golygu