Coedwig Brechfa
Ardal o goedwig yn Sir Gaerfyrddin, yw Coedwig Brechfa. Coedwig Brechfa yw'r enw gyfoes ar ran o Goedwig Glyn Cothi hynafol. Ers 2020 bu'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 261 metr |
Cyfesurynnau | 51.99°N 4.14°W |
Cod OS | SN4639528554 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 59 metr |
Rhiant gopa | Pen-crug-melyn |
Hanes
golyguGellir estyn hanes y coedtir yma cyn-belled â'r 6g i weld bod cymunedau yn y 15 pentref sy'n amgylchynu Coedwig Glyn Cothi yn ei rheoli i ddarparu cyflogaeth, deunyddiau adeiladu, cynnyrch, a phori. Bydd yr enw Glyn Cothi yn atgoffa darllenwyr o un o Feirdd yr Uchelwyr o'r 15g, Lewys Glyn Coth oedd yn frodor o ardal ym mhlwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn, yn yr un sir, sy'n cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi. Ar wahanol adegau bu'r goedwig yn lloches i Dywysogion Cymru yn brwydro yn erbyn Goresgyniad y Normaniaid, ac yn Goedwig Hela Frenhinol. Bu hefyd yn ganolfan ddiwydiannol am ddau ganrif yn cynhyrchu symiau mawr o olew ar gyfer lampau ac roedd yn brif gyflenwr pren ar gyfer y ffosydd a'r ffrwydron yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfnod cyfoes fel coedwig ddiwydiannol
golyguSefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth i gynyddu cynhyrchiant pren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan gymryd rheolaeth dros goetir nad oedd yn gynhyrchiol mwyach. Fel y Goedwig Newydd (New Forest) a Fforest y Ddena yn Lloegr, roedd Coedwig Glyn Cothi yn dal i gael ei rheoli’n weithredol gan y gymuned leol ar yr adeg hon ac roedd yn brif gyflenwr pren ar gyfer y ffosydd, yn ogystal ag olew a ffrwydron. Yn ystod y dirwasgiad yn y 1930au prynodd llywodraeth y DU dir a oedd wedi bod yn rhan o goedwig wreiddiol Glyn Cothi ond a oedd wedi'i drosi i amaethyddiaeth. Cafodd llawer o'r gwaith plannu i greu planhigfeydd conwydd ac adeiladu ffyrdd coedwig ei wneud gan ddynion ifanc di- waith o wersyll gwaith y Weinyddiaeth Lafur . Daeth llawer o'r cymunedau glofaol trallodus, a chawsant eu recriwtio ar gyfer hyfforddiant yn un o nifer o Ganolfannau Hyfforddi a grëwyd gan y Weinyddiaeth, y rhan fwyaf ohonynt ar eiddo'r Comisiwn Coedwigaeth; erbyn 1938, roedd gan y Weinyddiaeth 38 o Ganolfannau Hyfforddi ledled Prydain. Yn ddiweddarach defnyddiwyd y gwersyll cytiau ym Mrechfa i gartrefu plant o Wlad y Basg a oedd yn ffoaduriaid o erchyllterau Ryfel Cartref Sbaen.
Parhaodd rheolaeth a chynnal a chadw'r goedwig i fod yn brif ffynhonnell cyflogaeth i drigolion lleol tan yr 1980au pan newidiodd polisïau'r Comisiwn Coedwigaeth i fecanwaith cynyddol ac is-gontractio gwaith. Yna dechreuodd Cyngor Sir Gaerfyrddin brosiectau adfywio i ddatblygu Coedwig Brechfa a Mynydd Llanllwni gerllaw fel atyniadau twristiaeth ac ar gyfer hamdden.
Hamdden
golyguMae Coedwig Brechfa yn darparu gofod mynediad agored i gerddwyr, marchogion a beicwyr. Twristiaeth yw'r ail ffynhonnell gyflogaeth fwyaf yn y pentrefi o amgylch y goedwig. Mae wedi dod yn un o brif gyrchfannau Cymru ar gyfer beicwyr mynydd, ac mae’n gartref i sawl llwybr a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer beicio mynydd. Gyda chynlluniau i adeiladu canolfan beicio mynydd.
Mae’r ardal bellach yn un o’r ardaloedd peilot i Gymru ar gefnogi datblygiad economi leol gynaliadwy gref trwy gefnogi’r cymunedau i gymryd yr awenau yn natblygiad yr ardal.
O 1 Ebrill 2013, unwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a rhai agweddau ar weithgareddau Llywodraeth Cymru yn un corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd hyn yn cynnwys trosglwyddo cyfrifoldebau rheoli Coedwig Brechfa i Cyfoeth Naturiol Cymru .
Cyfeiriadau
golyguJ. Field, Dysgu Trwy Lafur: Hyfforddiant, diweithdra a'r wladwriaeth, 1890-1939 (Prifysgol Leeds, 1992)
Dolenni allanol
golygu- Coedwig Brechfa – Byrgwm, ger Caerfyrddin un o'r sawl tudalen ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y Goedwig
- Brechfa Village Gwefan am bentref Brechfa (Saesneg)
- Partneriaeth Hamdden a Thwristiaeth ardal Brechfa gwybodaeth am adnoddau a chyfleusterau hamdden (Cymraeg a Saesneg)
- Fideo awyr drôn o rhan o'r Goedwig