Coedwig Jeriwsalem

Coedwig binwydd ddinesig yw Coedwig Jeriwsalem ym Mynyddoedd Jwdea neu Fynddoedd Al Khalil ar gyrion Jeriwsalem. Mae cymdogaethau Beit HaKerem, Yefe Nof, Ein Kerem, Har Nof a Givat Shaul, a moshav Beit Zeit i'w cael o'i chwmpas. Plannwyd y goedwig yn ystod y 1950au gan y Gronfa Genedlaethol Iddewig drwy ddefnyddio arian gan roddwyr preifat.

Coedwig Jeriwsalem
Golygfa o Goedwig Jeriwsalem o Yad Vashem
Mathcoedwig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1956 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau31.7719°N 35.1656°E Edit this on Wikidata
Map
 
Coedwig Jeriwsalem, 2011
 
Pentref Deir Yassin yn y 1930au

Ym mlynyddoedd cynnar gwladwriaeth Israel, plannodd y Gronfa Genedlaethol Iddewig filoedd o goed ar hyd ymyl gorllewinol Jeriwsalem, gan greu llain werdd.[1] Syniad Yosef Weitz, 'tad y coedwigoedd' a 'phensaer trosglwyddo'r Palesteiniaid', oedd y goedwig. Ym 1956 fe gwynodd wrth Faer Jeriwsalem bod y mynyddoedd i'r gorllewin o'r ddinas yn edrych yn ddiffaith. Wyth mlynedd cyn hynny, roedd y mynyddoedd hynny yn gartref i nifer o bentrefi Palesteinaidd bywiog, lle roedd eu trigolion yn byw ac yn trin y tir. Ond yn ystod y rhyfel rhwng y Israeliaid a'r Palesteiniad yn 1948, diboblogodd Israel y pentrefi hyn gan symud y Palesteiniaid oddi yno.[2]

Plannwyd coeden gyntaf Coedwig Jeriwsalem yn 1956 gan ail Arlywydd Israel, Itzhak Ben-Zvi . Yn ei hanterth, roedd arwynebedd y goedwig yn gorchuddio 4,700 dwnam (470 hectar). Dros y blynyddoedd, mae ffiniau'r goedwig wedi cilio oherwydd ehangu trefol, ac bellach dim ond 1,250 dwnam (125 hectar) y mae'n eu gorchuddio.[3]

Mae un o gorneli deheuol y goedwig yn cyrraedd pentref Palesteinaidd adfeiliog Ayn Karim ac yn gorchuddio pentref Beit Mazmil a ddinistriwyd. Mae ei rhan fwyaf gorllewinol yn ymestyn dros dir a thai pentref arall a ddinistriwyd, sef Beit Horish. Cafodd ei thrigolion eu gyrru oddi yno ym 1949, gan yr Israeliaid. Mae'r goedwig yn ymestyn ymhellach dros bentrefi eraill a ddinistriwyd ac a wacawyd fel Deir Yassin (lle bu cyflafan ar 9 Ebrill 1948 pan laddodd milwyr Israeli drigolion y pentref), Zuba, Sataf, Jura a Beit Umm al-Meis,[2]

Mae amgueddfa Holocost Yad Vashem yn y goedwig islaw Mynydd Herzl. Yng nghanol y goedwig, rhwng Yad Vashem ac Ein Kerem, mae Canolfan Tzippori, sef hostel ieuenctid. Ar yr un campws hwn mae swyddfa "Sefydliad Adda ar gyfer Democratiaeth a Heddwch", sefydliad dielw Israelaidd sy'n rhedeg rhaglenni addysgol sy'n hyrwyddo goddefgarwch a chydfodolaeth.

 
Olion pentref Deir Yassin lle lladdwyd ei thrigolion ar 9 Ebrill 1948 gan filwyr Israeli.

Mae'r goedwig yn lloches i fywyd gwyllt, ac mae yna heidiau o jacaliaid sy'n byw ynddi.

Ymdrechion cadwraeth

golygu

Mae prosiectau gan Ddinas Jeriwsalem fel y Ffordd Jeriwsalem 16 arfaethedig yn bygwth dyfodol y goedwig. Mae hyn yn destun i sefydliadau amgylcheddol a thrigolion Jeriwsalem, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y cymdogaethau cyfagos. Ar ddiwedd y 1990au, daeth sefydliadau amgylcheddol a thrigolion at ei gilydd i ymladd dros ddyfodol y goedwig er mwyn ei diogelu.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. The Jerusalem Forest, endangered national asset
  2. 2.0 2.1 Pappe, Ilan (2007). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. t. 232. ISBN 978-1-85168-555-4.
  3. Forests and Parks, Jerusalem Forest - Nature in Jerusalem

Dolenni allanol

golygu