Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog

Mae Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog, a olygwyd gan y Parch Griffith Parry yn gofiant a gyhoeddwyd gan argraffwasg G Lewis, Penygroes ym 1884.[1] Roedd Robert Roberts yn ewythr i Griffith Parry.[2]

Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog
Math o gyfrwnggwaith llenyddol, cofiant Edit this on Wikidata
AwdurGriffith Parry Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1884 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiPen-y-groes Edit this on Wikidata
Prif bwncRobert Roberts Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Robert Roberts (12 Medi 176228 Tachwedd 1802) pregethwr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar ddiwedd y 18 ganrif.[3]

Cynnwys

golygu

Mae'r cofiant yn trafod ei ieuenctid ym Mala Deulyn a'i dröedigaeth o dan ddylanwad David Jones Llan-gan. Cei'r hanes ei gyfnod yn gweithio fel chwarelwr, gwas ffarm ac ysgolfeistr yn ogystal â'i waith fel gweinidog Capel Ebeneser Clynnog Fawr a'i deithiau pregethu trwy Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Penodau

golygu

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. Traethawd Arweiniol, gan y Golygydd
  2. Cofiant Robert Roberts, gan y Parch. Michael Roberts, Pwllheli
  3. Penillion, gan y Parch. John Roberts, Llangwm
  4. Robert Roberts, o Glynnog, gan Eben Fardd
  5. Sylwadau ar Robert Roberts fel Pregethwr, gan y Parch O. Thomas, D.D., Liverpool
  6. Robert Roberts. Clynnog, gan y Parch. Robert Jones, Llanllyfni
  7. Sylwadau ar Robert Roberts, Clynnog, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool
  8. Sylwadau ar Robert Roberts, o Drych yr Amseroedd ac o'r Gwyddoniadur
  9. Dywediadau ac Atgofion am Robert Roberts
  10. Llythyrau

Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys dros 50 o'i bregethau yn ogystal â marwnadau iddo gan Dewi Wyn o Eifion a Siôn Lleyn ac englyn beddargraff iddo gan Eben Fardd:

:Yn noniau yr eneiniad, — rhagorol
Fu'r gŵr a'i ddylanwad;
Seraph o'r nef yn siarad
Oedd ei lun y'ngwydd ei wlad.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cofiant a phregethau y parchedig Robert Roberts, Clynnog, dan olygiad y G. Parry.
  2. "PARRY, GRIFFITH (1827-1901), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-27.
  3. "ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.