Owen Thomas (cofiannydd)
Llenor Cymraeg a phregethwr oedd Owen Thomas (16 Rhagfyr 1812 – 2 Awst 1891), a gofir yn bennaf fel cofiannydd John Jones, Talysarn. Roedd yn frawd i'r pregethwr a llenor John Thomas, awdur nofel Gymraeg gynnar.[1]
Owen Thomas | |
---|---|
Owen Thomas (tua 1875) | |
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1812 Caergybi |
Bu farw | 1891, 2 Awst 1891 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, awdur |
- Gweler hefyd Owen Thomas (tudalen wahaniaethu).
Bywgraffiad
golyguGaned Owen Thomas yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn 1812. Dechreuodd ar ei yrfa yn gweithio fel saer-maen yn lleol. Yn 1834 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar adeg pan oedd John Elias yn dal yn ddylanwadol iawn ym Môn a gweddill gogledd Cymru. Ar ôl derbyn addysg yng Ngholeg Diwinyddol y Bala ac ym Mhrifysgol Caeredin daeth yn un o bregethwyr amlycaf ei ddydd a hynny mewn cyfnod pan oedd pregethwyr Cymraeg yn ffigyrau mawr yn y gymdeithas.[1]
Llenyddiaeth
golyguDiolch i gefnogaeth Dr Lewis Edwards o'r Bala, daeth yn gyd-olygydd Y Traethodydd a chyfrannodd sawl erthygl i'r cylchgrawn hwnnw. Fe'i cofir yn bennaf fel cofiannydd, yn enwedig am ei waith mwyaf, sef Cofiant John Jones, Talysarn a gyhoeddwyd yn 1874. Ysgrifennodd hefyd gofiant i Henry Rees.[1]
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Owen Thomas
golygu- Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn (Wrecsam, 1874)
- Cofiant Henry Rees (1890)
Astudiaethau
golygu- Iolo Carnarvon, Cofiant Owen Thomas (1912)
- D. Ben Rees, Pregethwr y Bobl (1979)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).