Er bod Iemen yn wlad Arabaidd, dylanwadir ar goginiaeth Iemen gan ddulliau coginio India ac Indonesia yn fwy na'r byd Arabaidd o ganlyniad i draddodiad morwrol y wlad. Fel mewn gwledydd eraill yn y byd Arabaidd, gweinir y bwyd mewn potiau, dysglau a phowlenni ar liain ar y llawr, a bwyteir gyda'r llaw dde. Y dynion sydd yn bwyta yn gyntaf, a'r menywod a'r plant yn bwyta ar ôl y dynion neu mewn ystafell arall. Iemen yw'r unig wlad sydd yn parhau i ddefnyddio offer coginio sebonfaen fel rheol.[1]

Sachau o rawn ar werth yn Sana'a.

Yn ogystal, dylanwadir coginiaeth Iemen gan ddaearyddiaeth a hinsawdd y wlad. Yng ngogledd Iemen mae tiroedd uchaf y llwyfandir Arabaidd, ac yma mae glawiad trwm yn ystod monsŵn yr haf. Tyfir sorgwm, coffi, a qat ar lethrau terasog yr ucheldiroedd, a châi gwenith ac indrawn eu dyfrhau yn y dyffrynnoedd. Yn hanesyddol, saif gwerddonau Shabwa, Ma'rib, a Nejran ar Ffordd y Sbeisys o'r India, ar hyd y Môr Coch i'r Môr Canoldir.[1]

Prif gnydau grawn Iemen yw miled a sorgwm. Gwneir uwd a elwir 'asîd o sorgwm a menyn sbeislyd neu iogwrt. Bwyteir khubz, bara pita sydd yn boblogaidd ar draws y byd Arabaidd, maluj a bobir mewn ffwrn glai, a lahuh sef surdoes a goginir ar un ochr yn unig, yn debyg i'r bara injera o Ethiopia. Un o fwydydd nodweddiadol Iemen yw hilbeh, sef past a wneir o roegwyran. Defnyddir hilbeh i roi haen ar ben y stiw maraq ac wrth wneud y saws z'hûg.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Alan Davidson a Tom Jaine, The Oxford Companion to Food (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014).