Emmy Noether
Mathemategydd o'r Almaen oedd Emmy Noether (23 Mawrth 1882 – 14 Ebrill 1935), a ddisgrifiwyd gan Pavel Alexandrov, Albert Einstein, Jean Dieudonné, Hermann Weyl a Norbert Wiener fel y mathemategydd benywaidd bwysicaf yn hanes mathemateg. Mae hi'n adnabyddus am y Theorem Noether.
Emmy Noether | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Amalie Emmy Noether ![]() 23 Mawrth 1882, 1882 ![]() Erlangen ![]() |
Bu farw | 14 Ebrill 1935, 1935 ![]() Bryn Mawr ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Addysg | doethuriaeth, cymhwysiad ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd, academydd, mathemategydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | theorem Noether ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen ![]() |
Tad | Max Noether ![]() |
Perthnasau | Gottfried E. Noether, Herman D. Noether ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Goffa Ackermann–Teubner ![]() |
Roedd yn o'r mathemategwyr a ddatblygodd y cysyniad o fodrwy rhwng y 1870au a'r 1920au. Fel rhan o'r gwaith hwn, ei chyd-fathemategwyr oedd Dedekind, Hilbert a Fraenkel. Datblygodd hefyd nifer o gysyniadau pwysig o fewn algebra haniaethol a ffiseg damcaniaethol. Mewn ffiseg, mae 'damcaniaeth Noether yn egluro'r cysylltiad rhwng cymesuredd a Deddf Cadwraeth.
Manylion personol Golygu
Ganed Emmy Noether ar 23 Mawrth 1882 yn Erlangen ac wedi gadael yr ysgol leol bu'n astudio Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Erlangen–Nuremberg (lle roedd ei thad Max Noether, hefyd yn ddarlithydd), Prifysgol Göttingen, yr Almaen ac yna Coleg Bryn Mawr, UDA. Ymhlith yr anrhydeddau a gyflwynwyd iddi am ei gwaith mae'r canlynol: Gwobr Goffa Ackermann–Teubner. Gan mai merch oedd hi, ni dderbyniodd swydd athro prifysgol llawn, a mynegodd nifer o'i chydweithwyr eu siom yn y drefn annheg yma.
Yn ystod ei blynyddoedd olaf, dychwelodd i Brifysgol Bryn Mawr, ac yno y claddwyd ei llwch. Achoswyd ei marwolaeth gan syst wyfaol.
Gyrfa Golygu
Credodd fod gan gomiwnyddiaeth rinweddau bydeang a symudodd i Brifysgol Moscfa i barhau a'i gwaith. Erbyn 1932, roedd mathemategwyr y byd yn sylweddoli mawredd ei gallu a'i gwaith o fewn maes mathemateg.
Aelodaeth o sefydliadau addysgol Golygu
Aelodaeth o grwpiau a chymdeithasau Golygu
- Cylch Mathemategol Palermo
- Cymdeithas Mathemategwyr yr Almaen
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ https://www.sciencenews.org/article/emmy-noether-theorem-legacy-physics-math. dyddiad cyrchiad: 13 Mehefin 2018.
- ↑ http://cwp.library.ucla.edu/Phase2/Noether,_Amalie_Emmy@861234567.html. dyddiad cyrchiad: 26 Mawrth 2018.