M. Carey Thomas
Ffeminist Americanaidd oedd Martha Carey Thomas (2 Ionawr 1857 - 2 Rhagfyr 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ieithydd, addysgwr, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Hi oedd ail brifathrawes Coleg Bryn Mawr, Pennsylvania.[1][2][3]
M. Carey Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1857 Baltimore |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1935 Philadelphia |
Man preswyl | Baltimore |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, prifathro coleg |
Cyflogwr | |
Mam | Mary Whitall Thomas |
Partner | Mary Elizabeth Garrett |
Gwobr/au | Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Baltimore, Maryland a bu farw yn Philadelphia. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Zurich, Prifysgol Johns Hopkins a Phrifysgol Leipzig. [4][5]
Magwraeth
golyguHoffai gael ei galw'n "Carey Thomas", yn ddiweddarach mewn bywyd ond fe'i gelwid yn "Minnie" gan ei theulu pan oedd yn blentyn. Roedd yn ferch i James Carey Thomas a Mary Whitall Thomas. Cafodd ei chenhedlu "mewn golau dydd llawn," oherwydd roedd ei thad a oedd yn feddyg, yn meddwl y byddai hyn yn lleihau'r siawns y byddai ei wraig yn erthylu.[6]:3
Roedd nifer o Grynnwyr adnabyddus yn ei theulu, gan gynnwys ei modryb a'i hewyrth, Robert Pearsall Smith a Hannah Whitall Smith, a'i chefndryd Alys Pearsall Smith (gwraig gyntaf Bertrand Russell) a Mary Smith Berenson Costelloe (a briododd Bernard Berenson).
Yn 1864, pan oedd Carey Thomas ond yn saith mlwydd oed, cafodd ei llosgi'n ddifrifol wrth geisio helpu ei chogydd, Eliza, i baratoi cinio. Aeth ffrog Thomas ar dân. Roedd ei hadferiad yn hir ac yn llafurus a chreithiwyd hi gan hyn. Yn ei harddegau, dylanwadwyd yn gryf arni gan ffeministiaeth gadarn ei mam a chwaer ei mam, Hannah Whitall Smith, a ddaeth yn bregethwr amlwg. Nid oedd ei thad yn gwbl gyfforddus â syniadau ffeministaidd, ond roedd ei ferch yn annibynnol iawn, a chefnogodd hi yn yr ymdrechion hyn. Er bod ei rhieni yn aelodau uniongred o Gymdeithas y Cyfeillion (y 'Crynnwyr'), arweiniodd addysg Thomas a theithio Ewrop hi i gwestiynu'r credoau hynny a datblygodd gariad at gerddoriaeth a theatr, a waharddwyd gan Grynwyr Uniongred (Orthodox Quakers). Arweiniodd y cwestiynu crefyddol hwn at anghytundeb gyda'i mam.
Coleg
golyguAeth Thomas i Sage College, ysgol i ferched ym Mhrifysgol Cornell, ym mis Medi, 1875, lle newidiodd ei henw cyntaf yn ffurfiol i Carey. Graddiodd o Brifysgol Cornell ym 1877. Cynigiodd Cornell swydd athro llenyddiaeth a deon Coleg Sage iddi, ond gwrthododd y cynnig.
Astudiodd Groeg ym Mhrifysgol Johns Hopkins, ond gadawodd oherwydd nad oedd ganddi hawl i fynychu dosbarthiadau. Gwnaeth waith graddedig pellach ym Mhrifysgol Leipzig, ond nid oedd y brifysgol honno'n dyfarnu graddau i fenywod. Yna aeth i Brifysgol Zurich ac ennill Ph.D. mewn ieithyddiaeth, summa cum laude, yn 1882 am ei thraethawd hir, sef dadansoddiad philolegol o "Sir Gawain a'r Green Knight". Hi oedd y fenyw gyntaf a'r tramorwr cyntaf i dderbyn doethuriaeth o'r fath o'r brifysgol.
Yna treuliodd beth amser ym Mharis, lle mynychodd ddarlithoedd gan Gaston Paris yn y Sorbonne, ac yna dychwelodd i'r Unol Daleithiau. Ni ddilynodd Thomas ei gradd allan o gariad at ei gwaith academaidd, ond yn hytrach o'r awydd tanbaid ynddi i ddangos i Americanwyr fod gan fenywod yr un gallu deallusol â dynion.
Gwrth-Iddewig
golyguGweithiodd Thomas i wahardd Iddewon rhag cael eu derbyn gan Goleg Bryn Mawr, fel aelodau cyfadran ac fel myfyrwyr, fel y nododd y bywgraffydd Helen Lefkowitz Horowitz.[7] Gwaharddodd gyflogi athrawon Iddewig, ac yn ddiweddarach gweithiodd i ddileu ymgeiswyr Iddewig rhag cael eu hystyried ar gyfer swyddi cyfadran, gan nodi ei bod yn well ganddi gael cyfadran a oedd yn cynnwys “ein stoc Eingl-Sacsonaidd da ein hunain."
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland (1988)[8] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "M. Carey Thomas". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Martha Carey Thomas". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "M. Carey Thomas". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Martha Carey Thomas". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016.
- ↑ Alma mater: http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016. http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016. http://www.brynmawr.edu/library/speccoll/guides/thomas.shtml. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2016.
- ↑ Anrhydeddau: https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.
- ↑ Horowitz, Helen (1994). The Power and Passion of M. Carey Thomas. New York: Knopf. ISBN 0-252-06811-4.
- ↑ "Bryn Mawr College to place moratorium on using name of founder who was known anti-Semite". JTA. 28 Awst 2017. Cyrchwyd 29 Awst 2017.
- ↑ https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.