Coleg Glan Hafren, Y Rhodfa, Llyfrgell Parade, Coleg Caerdydd a'r Fro, Llyfrgell Barri, Coleg Caerdydd a'r Fro, City Centre Library, Cardiff & Vale College
Ffurfiwyd y coleg ym mis Medi 2011 drwy uno Coleg y Barri a Choleg Glan Hafren . Roedd yr uno o ganlyniad i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn annog colegau yng Nghymru i gydweithio er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i fyfyrwyr. [1] Mae Coleg Caerdydd a'r Fro bellach yn un o golegau mwyaf Cymru. Cymerodd y Coleg reolaeth o Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd o fis Gorffennaf 2015 ar rent rhad i Gyngor Caerdydd. [2] Ceir bellach 7 campws i'r Coleg yng Nghaerdydd a'r Barri.
Yn 2015 agorwyd prif gampws newydd gwerth £45 miliwn yn Heol Dumballs, Caerdydd, i ddarparu ar gyfer 4,000 o fyfyrwyr. Roedd y cyfleusterau’n cynnwys 130 o ystafelloedd addysgu, stiwdios ffilm a dawns, theatr, salon gwallt a sba ac, ar y llawr uchaf, bar cyhoeddus a bwyty. [3] Ar ôl gwerthu eu prif safle yng Nghaerdydd yn City Road, Caerdydd, bwriad y coleg oedd cadw eu campws arall yng Nghaerdydd, yn Trowbridge a’i drosi i fod yn goleg celf. [3]
Mae'r Coleg yn ymrwymo i Safonau’r Gymraeg fel y cytunwyd arnynt gyda Comisiynydd y Gymraeg. Mae hyn yn ymwneud â sichrau elfen o ddefnydd o'r Gymreag yn gorfforolaethol ac wrth ddelio gyda'r Coleg.[4] Serch hynny, Saesneg yn unig yw unig gyfrwng y rhelyw helaeth o'r cyrsiau, er, gyda chydweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er dechrau'r 2020 mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi dechrau o dan gynllun Siarad Dysgu Byw. Bwriad y cynllun yw cynyddu'r nifer o gyrsiau a modiwlau dwyieithog a gynigir fel rhan o bob cwrs, ar bob campws CAVC, ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs llawn amser neu ran amser neu brentisiaeth.[5]
Ym mis Mawrth 2023 lansiodd Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gynllun ''Perthyn'' ar gyfer siaradwyr Cymraeg ifanc Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn y Senedd. Roedd cyfle i’r dysgwyr oedd rhwng 16 a 19 oed glywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu cenedl wrth-hiliol ac i glywed profiadau a barn rhai o wynebau cyfarwydd Cymru gan gynnwys y newyddiadurwr, Iolo Cheung; y rapiwr, Sage Todz; y cyflwynydd teledu, Melanie Owen; y myfyriwr ôl-radd ac ymgyrchydd gwrth-hiliaeth, Emily Pemberton a Nooh Omar Ibrahim sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag Urdd Gobaith Cymru. [6]