Zadie Smith
Awdures o Loegr yw Zadie Smith (ganwyd 25 Hydref 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig fel nofelydd ac fel awdur storiau byrion ac ysgrifau.
Zadie Smith | |
---|---|
Llais | Zadie Smith BBC Radio4 Desert Island Discs 27 September 2013 b03bg4v7.flac |
Ganwyd | 25 Hydref 1975, 27 Hydref 1975 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | On Beauty, White Teeth, The Autograph Man, NW, Swing Time, Changing My Mind: Occasional Essays, The Fraud |
Prif ddylanwad | Vladimir Nabokov, Salman Rushdie |
Mudiad | realaeth |
Priod | Nick Laird |
Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black, awdur preswyl, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Bollinger Everyman Wodehouse, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Medal Langston Hughes, Gwobr y Guardian am y Llyfr Cyntaf, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Bodley, National Book Critics Circle Award in Criticism |
Gwefan | http://www.zadiesmith.com |
Ei nofel gyntaf oedd White Teeth (2000), ac fe ddaeth yn un o'r gwerthwr gorau gan ennill nifer o wobrau. Hi hefyd a ysgrifennodd Feel Free (2018), casgliad o draethodau. Mae hi wedi bod yn athro yn y Gyfadran Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Efrog Newydd ers Medi 2010.
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed ar 25 Hydref 1975 ym mwrdeistref Brent yng ngogledd-orllewin Llundain, i fam o Jamaica, Yvonne Bailey, ac i Sais, Harvey Smith. Yn 14 oed, newidiodd ei henw i Zadie. Priododd Nick Laird.[1][2][3][4][5]
Magwyd mam Smith yn Jamaica, ac ymfudodd i Loegr yn 1969. Ysgarwyd ei rhieni pan oedd yn ei harddegau. Mae ganddi hanner chwaer, hanner brawd, a dau frawd iau (un yw'r rapiwr a'r digrifwr Doc Brown, a'r llall yw'r rapiwr Luc Skyz). Fel plentyn, roedd Smith yn hoff o ddawnsio tap, ac yn ei harddegau, cafodd ei hystyried yn yrfa mewn theatr gerddorol. Tra oedd yn y brifysgol, enillodd Smith arian fel canwr jazz, ac am gyfnod roedd am fod yn newyddiadurwr. Er gwaethaf yr uchelgeisiau hyn, daeth llenyddiaeth i'r amlwg fel ei phrif ddiddordeb.
Aeth Smith i ysgolion y wladwriaeth leol: Ysgol Iau Malorees ac Ysgol Gyfun Hampstead, ac yna Coleg y Brenin, Caergrawnt, lle bu'n astudio llenyddiaeth Saesneg.
Yng Nghaergrawnt, cyhoeddodd Smith nifer o straeon byrion mewn cyfrol llenyddol gan fyfyrwyr newydd, o'r enw The Mays Anthology. Fe wnaethon nhw ddenu sylw cyhoeddwr, a gynigiodd gytundeb iddi ar gyfer ei nofel gyntaf ond penderfynodd Smith gysylltu ag asiant llenyddol sef A.P. Watt, ac fe'i derbyniwyd hi ar lyfrau'r asiant.[6]
Cyfarfu Smith â Nick Laird ym Mhrifysgol Caergrawnt. Priodasant yn 2004 yng Nghapel Coleg y Brenin, Caergrawnt. Cyflwynodd Smith ei chyfrol On Beauty iddo. Mae hefyd yn defnyddio ei enw, yn gynnil, yn White Teeth.
Y llenor
golyguYmhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: On Beauty, White Teeth, The Autograph Man, NW, Swing Time a Changing My Mind: Occasional Essays.[7]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [8][9][10]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goffa James Tait Black (2000), awdur preswyl (2000), Gwobr Llyfrau Costa (2000), Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen (2006), Gwobr Somerset Maugham (2006), Gwobr Bollinger Everyman Wodehouse (2006), Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf (2006), Medal Langston Hughes (2017), Gwobr y Guardian am y Llyfr Cyntaf (2000), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (2002), Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd (2018), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America (2023), Medal Bodley (2022), National Book Critics Circle Award in Criticism[11][12][13][14][15][16] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wood, Gaby (25 Awst 2012). "The Return of Zadie Smith". The Telegraph. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2013.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2008. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://cartoons.osu.edu/biographical-files/.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Zadie Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Mehefin 2019
- ↑ "AP Watt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mai 2011. Cyrchwyd 7 Mawrth 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Zadie Smith to Join NYU Creative Writing Faculty", NYU, 25 Mehefin 2009.
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
- ↑ Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
- ↑ Anrhydeddau: https://www2.societyofauthors.org/prizes/the-soa-awards/somerset-maugham-awards/. https://www.anisfield-wolf.org/winners/on-beauty/. https://www1.cuny.edu/mu/forum/2017/08/31/zadie-smith-wins-ccnys-langston-hughes-medal/. dyddiad cyrchiad: 9 Ebrill 2021. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023. https://www.bodleian.ox.ac.uk/about/libraries/bodley-medal.
- ↑ https://www2.societyofauthors.org/prizes/the-soa-awards/somerset-maugham-awards/.
- ↑ https://www.anisfield-wolf.org/winners/on-beauty/.
- ↑ https://www1.cuny.edu/mu/forum/2017/08/31/zadie-smith-wins-ccnys-langston-hughes-medal/. dyddiad cyrchiad: 9 Ebrill 2021.
- ↑ https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009.
- ↑ https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.
- ↑ https://www.bodleian.ox.ac.uk/about/libraries/bodley-medal.