Tîm pêl-droed cenedlaethol Comoros

tîm pêl-droed Ynysoedd y Comoros

Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Comoros yn cynrychioli ynysoedd y Comoros mewn pêl-droed rhyngwladol ac yn cael ei reoli gan Ffederasiwn Pêl-droed Comoros.[1] Fe'i ffurfiwyd ym 1979, ymunodd â Chydffederasiwn Pêl-droed Affrica (CAF) yn 2003, a daeth yn aelod o FIFA yn 2005. Cymhwysodd Comoros ar gyfer eu twrnamaint mawr cyntaf yn 2021, ar ôl i’w gêm gyfartal 0–0 gyda Togo eu sicrhau o le yng Nghwpan y Cenhedloedd Affrica 2021. [2] Mae hefyd yn aelod o'r UAFA (Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd).

Comoros
[[File:|200px|Shirt badge/Association crest]]
Llysenw(au) Les Coelacantes (Y Coelacanthiaid)
Is-gonffederasiwn COSAFA (Southern Africa)
Conffederasiwn CCAF (Affrica)
Hyfforddwr Amir Abdou
Capten Nadjim Abdou
Mwyaf o Gapiau Youssouf M'Changama (40)
Prif sgoriwr El Fardou Ben Nabouhane (13)
Cod FIFA COM
Safle FIFA Nodyn:FIFA World Rankings
Safle FIFA uchaf 127 (October 2017)
Safle FIFA isaf 207 (December 2006)
Safle Elo Nodyn:World Football Elo Ratings
Safle Elo uchaf 172 (August 1979)
Safle Elo isaf 208 (September 2003)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 Mawrisiws 3–0 Comoros 
(Saint-Denis, Réunion; August 26, 1979)
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Comoros 7–1 Seychelles 
(Mitsamiouli, Comoros; September 1, 2021)
Colled fwyaf
Réunion Réunion 6–1 Comoros 
(Saint-Denis, Réunion; August 31, 1979)
 Madagasgar 5–0 Comoros 
(Victoria, Seychelles; August 20, 1993)
 Mawrisiws 5–0 Comoros 
(Curepipe, Mauritius; September 4, 2003)
Cwpan Cenhedloedd Affrica
Ymddangosiadau 1 (Cyntaf yn 2021)
Cwpan COSAFA
Ymddangosiadau 4 (Cyntaf yn Cwpan COSAFA Cup (2008))
Canlyniad gorau Quarter-finals Cwpan COSAFA] 2019

Chwaraeodd Comoros eu gemau cyntaf yng Ngemau Ynys Cefnfor India 1979 . Dyna'r unig gemau y gwnaethon nhw eu chwarae nes cymhwyso ar gyfer Cwpan y Cenhedloedd Arabaidd 2009 yn 2006. Y ddwy gêm honno oedd eu dwy gêm gyntaf gyda chydnabyddiaeth lawn FIFA, ac roeddent yn cynnwys buddugoliaeth o 4–2 dros Djibouti . Yn 2007, cymerodd Comoros gymhwyster gyntaf ar gyfer Cwpan y Byd a Chwpan Cenhedloedd Affrica ar gyfer twrnameintiau 2010, ond fe gollon nhw yn rownd ragbrofol 2–10 ar agregau i Fadagascar.

Yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2018 ym mis Hydref 2015, fe aeth Les Coelacantes ymlaen heibio'r rownd gyntaf am y tro cyntaf erioed trwy guro Lesotho ar goliau oddi cartref ar ôl dwy gêm gyfartal. Ers hynny mae'r canlyniadau wedi gwella'n gyson, gan gynnwys buddugoliaethau cartref yn erbyn Botswana, Mauritius a Malawi yng ngemau rhagbrofol Cwpan Cenhedloedd Affrica.

Cystadlaethau rhyngwladol

golygu
1930 i 1974 - nid gwladwriaeth annibynnol
1978 i 2006 - ddim yn aelod o FIFA
2010 i 2022 - heb gymhwyso
1957 i 2008 - heb gymryd rhan
2010 i 2012 - heb gymhwyso
2013 - heb gymryd rhan
2015 i 2019 - heb gymhwyso
2022 - cymwys

Pencampwriaeth Cenhedloedd Affrica

golygu
2009 i 2011 - heb gymryd rhan
2014 i 2021 - heb gymhwyso

Pencampwriaeth Deheudir Affrica (Cwpan COSAFA)

golygu
1997 i 2007 - heb gymryd rhan
2008 - rownd ragarweiniol
2009 - rownd ragbrofol
2010 - twrnamaint wedi'i ganslo
2013 - heb gymryd rhan
2014 - ni chynhaliwyd y twrnamaint
2015 i 2017 - heb gymryd rhan
2018 - rownd ragarweiniol
2019 - rowndiau terfynol chwarterol
2020 - Twrnamaint wedi'i ganslo oherwydd pandemig COVID-19
2021 - wedi'i dynnu'n ôl

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Vickers, Steve (2009-10-24). "BBC SPORT | Football | African | Comoros make steps forward". BBC News. Cyrchwyd 2013-12-03.
  2. "Comoros achieve fairytale Nations Cup qualification". BBC Sport. 25 March 2021. Cyrchwyd 25 March 2021.